CHTh Dyfed-Powys yn Cynnal y Pwyllgor Dethol Cyntaf i Gryfhau Craffu ar Blismona Lleol

Heddiw, cynhaliodd Dafydd Llywelyn, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Pwyllgor Dethol cyntaf y rhanbarth. Menter newydd i gryfhau craffu cyhoeddus, tryloywder ac atebolrwydd mewn plismona yw’r Pwyllgor Dethol.
Gan ddwyn panel amrywiol o gynrychiolwyr o bob cwr o ardal Dyfed-Powys ynghyd, bydd y Pwyllgor Dethol yn darparu goruchwyliaeth annibynnol o waith Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu a chyflenwi’r Cynllun Heddlu a Throseddu newydd ar gyfer 2025-2029. Mae’r Pwyllgor Dethol yn arddangos pŵer galw ac arweinyddiaeth CHTh, gan ddwyn pobl ynghyd i fynd i’r afael â heriau a rennir a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ar draws trefi a chymunedau Dyfed-Powys. Mae ffocws allweddol ar arferion dargyfeiriol ac ymyrraeth gynnar ar gyfer pobl ifainc, gan helpu i atal niwed cyn iddo ddigwydd a gwella canlyniadau tymor hir.
Wedi’i gadeirio gan weithwyr llywodraethu proffesiynol, bydd Gwrandawiad y Pwyllgor Dethol yn clywed tystiolaeth am bynciau allweddol sy’n ymwneud â phlismona a diogelwch cymunedol. Archwiliodd y sesiwn gyntaf i’r ffordd y mae CHTh yn gwireddu ei flaenoriaeth i ‘Gefnogi Dioddefwyr a Lleihau niwed’, gyda ffocws arbennig ar wasanaethau cymorth dioddefwyr, diogelu, a gwaith partneriaeth.
Dywedodd y Comisiynydd Llywelyn:
“Yr wyf yn falch o gyflwyno’r model craffu newydd ar gyfer ardal Dyfed-Powys. Bydd y Pwyllgor Dethol yn darparu llwyfan gwerthfawr ar gyfer herio, adlewyrchu, a thryloywder, gan sicrhau bod y penderfyniadau a wneir er budd ein cymunedau’n destun craffu annibynnol ac amrywiol.
Edrychaf ymlaen at glywed barn y Pwyllgor ac archwilio sut y gallwn barhau i gyflenwi cynnydd ystyrlon, yn arbennig o ran cefnogi dioddefwyr a lleihau niwed.”
Fel rhan o’r broses graffu ehangach, mae’r Comisiynydd hefyd wedi lansio dau gyfle ymgysylltu cyhoeddus:
- Galwad Agored am Dystiolaeth, sy’n gwahodd unigolion, sefydliadau a gweithwyr proffesiynol i rannu eu mewnwelediadau a’u profiadau ar y thema Cefnogi Dioddefwyr a Lleihau Niwed. Gellir cyflwyno barn neu fewnwelediadau drwy e-bost neu drwy’r post. Ceir manylion llawn ar ein gwefan.
- Arolwg byr ar-lein ar gyfer pobl 18–25 oed, gyda’r nod o gasglu barn oedolion ifainc am y cymorth sydd ar gael yn ardal Dyfed-Powys. https://forms.office.com/e/5ygtXxtUry?origin=lprLinkwo
I gael gwybod mwy a gwylio’r Pwyllgor Dethol, galwch heibio i’n gwefan.
Gwybodaeth bellach:
Article Date: 17/07/2025