Mae Heddlu Dyfed-Powys yn gwella’r cymorth mae’n rhoi i blant a phobl ifainc drwy estyn ei wasanaeth ysgolion tu hwnt i ysgolion cynradd ac uwchradd i addysg bellach.  

Mae’r heddlu wedi dylunio rhaglen o sesiynau sy’n canolbwyntio ar faterion perthnasol megis trais yn erbyn menywod a merched, camfanteisio a grŵmio â’r nod o gryfhau ymyrraeth gynnar, lleihau niwed a helpu i atal plant a phobl ifainc rhag mynd i’r system cyfiawnder troseddol.

Mae’r ymagwedd hon yn ffurfio rhan o symudiad ehangach at fynd i’r afael â bregusrwydd yn gynt, mynd i’r afael ag achosion craidd niwed, a lleihau troseddu o fewn ein cymunedau iau.

Dywedodd yr Uwch-arolygydd Chris Neve, arweinydd atal Heddlu Dyfed-Powys: “Yn 2025, addawom y byddem yn cymryd ymagwedd atal trosedd gryfach drwy ryddhau ein strategaeth atal.

“Ers hynny, ry’n ni wedi ehangu cwmpas y gwaith hwn i gynyddu ein ffocws ar blant a phobl ifainc.

“Mae rhaglen plismona ysgolion eisoes wedi’i hen sefydlu, sy’n canolbwyntio ar blant mewn ysgolion cynradd ac uwchradd, ac ry’n ni nawr yn adeiladu ar hynny er mwyn sicrhau ein bod ni’n cyrraedd pobl ifainc 16 oed a hŷn.

“Yn y pen draw, mae llai o ddioddefwyr a llai o droseddau’n golygu cymunedau mwy diogel, a llai o alw ar blismona, sy’n ein galluogi i roi mwy o gefnogaeth i’r bobl sydd ein hangen fwyaf. Yn bwysicach na dim, mae’n ymwneud â gwella cyfleoedd pobl i fyw bywydau cadarnhaol a llwyddiannus.

“Drwy edrych ar drosedd drwy lens atal, ry’n ni’n adeiladu diwylliant sy’n mynd i’r afael ag achosion sylfaenol, ac yn torri cylchoedd trosedd a niwed.”

O’r tymor hwn ymlaen, bydd gan bob campws addysg bellach yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys Gwnstabl Heddlu neu SCCH penodol fel eu pwynt cyswllt penodol.

Bydd pedwar swyddog allgymorth addysg bellach hefyd yn gweithio’n agos â staff a myfyrwyr ym mhob coleg a chweched dosbarth ledled yr ardal heddlu, gan baratoi a chyflwyno sesiynau atal trosedd ac addysg.

Ychwanegodd yr Uwch-arolygydd Neve: “Mae’r materion sy’n arwain plant a phobl ifainc i gyflawni trosedd ac ymddwyn yn wrthgymdeithasol yn gymhleth – ac ni all yr heddlu eu datrys ar ben ei hun.

“Dyna pam yr ydym yn gweithio’n agos ag asiantaethau megis awdurdodau lleol i sicrhau bod gwaith partneriaeth yn cael ei ddatblygu’n gynaliadwy, gan sicrhau ymagwedd datrys problemau gydweithredol, tymor hirach ar gyfer pob plentyn ac unigolyn ifanc.”

Fel rhan o’i becyn o newidiadau, bydd Heddlu Dyfed-Powys yn recriwtio swyddogion atal ieuenctid i weithio o fewn timoedd cyfiawnder ieuenctid awdurdodau lleol i gryfhau’r gwaith partneriaeth rhwng yr heddlu, cynghorau ac asiantaethau partner, gan ddiogelu plant a phobl ifainc.   

Mae’r heddlu hefyd yn treialu newidiadau yn y ddalfa, gan gryfhau penderfyniadau o gwmpas arestio plant a phobl ifainc er mwyn sicrhau y cymerir y camau iawn, ac ychwanegu haenau ychwanegol o graffu ar bob penderfyniad i arestio rhywun sy’n iau na 18 oed.

Dywedodd Dafydd Llywelyn, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu: “Un o’r ymrwymiadau rwyf wedi gwneud o fewn fy Nghynllun Heddlu a Throseddu ar gyfer 2025-29 yw gwella gwasanaethau ar gyfer plant a phobl ifainc drwy ymagwedd sy’n canolbwyntio ar y plentyn.  

“Rwy’n falch bod Heddlu Dyfed-Powys yn cyflwyno amryw o fesurau newydd, gan gynnwys estyn gwasanaeth ysgolion presennol yr heddlu, fel bod gan blant a phobl ifainc mewn addysg bellach fynediad i wybodaeth atal trosedd bwysig a chefnogaeth gan staff hyfforddedig penodol.

“Rwyf hefyd yn croesawu’r ymrwymiad ar y cyd rhwng Heddlu Dyfed-Powys a Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid awdurdodau lleol i gryfhau’r ymagwedd bartneriaeth tuag at ymyrraeth gynnar ac atal ieuenctid.”

Bydd y newidiadau’n cael eu cyflwyno ledled ardal Dyfed-Powys, gyda datblygiadau pellach wedi’u trefnu wrth i’r gwaith fynd rhagddo.   

Gwybodaeth bellach:

OPCC.Communication@dyfed-powys.police.uk

Article Date: 08/10/2026