Diwrnod Ymgysylltu Cymunedol yn Sir Benfro

Treuliais ddiwrnod yn Sir Benfro ddydd Mawrth yn cwrdd â swyddogion, cynghorwyr, cynrychiolwyr cymunedol ac aelodau o’r cyhoedd fel rhan o’m hymrwymiad parhaus tuag at aros yn amlwg a hygyrch ledled ardal Dyfed-Powys.
Cychwynnais y bore yng Ngorsaf Heddlu Aberdaugleddau, gan ddal i fyny â swyddogion lleol a thrafod rhai o’r heriau penodol a’r blaenoriaethau ar gyfer plismona yn yr ardal. Oddi yno, es i gwrdd â chynghorwyr lleol ym Mhenfro a Doc Penfro i glywed eu barn a rhannu diweddariadau am fy ngwaith fel Comisiynydd.
Yn y prynhawn, ymwelais â Gorsaf Heddlu Hwlffordd i siarad yn uniongyrchol â staff. Mae clywed am eu profiadau a’u hadborth yn helpu i hysbysu fy rôl ac yn sicrhau fy mod i’n medru parhau i herio a chefnogi’r Heddlu lle mae angen.
Gorffennais y dydd drwy gynnal Cymhorthfa Gymunedol yn HaverHub yn Hwlffordd. Mae’r sesiynau hyn yn gyfle i bobl leol siarad â mi wyneb yn wyneb, codi materion a holi cwestiynau am blismona a diogelwch cymunedol.
Yr oedd yn ddiwrnod llawn ond gwerth chweil. Diolch i bawb a gymerodd yr amser i gwrdd â mi.
Gwybodaeth bellach:
Article Date: 10/06/2025