Mis Pride 2025: Dathlu Amrywiaeth

Gan fod Mis Pride 2025 yn cael ei ddathlu ledled y DU, mae Dafydd Llywelyn, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, yn awyddus i gydnabod pwysigrwydd amrywiaeth a chynhwysiant y gymuned LHDT+ ar draws ardal Dyfed-Powys.   

Mae’r Comisiynydd Dafydd Llywelyn a’i Swyddfa’n cefnogi’r gymuned LHDT+. Yn ddiweddarach y mis hwn, bydd y Comisiynydd ac aelodau o SCHTh yn mynychu Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Rhwydwaith Heddlu LHDT+ Cymru. 

Dywedodd Dafydd Llywelyn, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu: 

“Mae fy swyddfa a minnau’n gynghreiriaid balch o’r gymuned LHDT+, ac edrychwn ymlaen at fynychu digwyddiad Gwobr Rhagoriaeth ar 27 Mehefin. Cyflwynir y wobr i gynghreiriaid i gydnabod eu hymrwymiad i’r Gymuned LHDT+. Mae eu hymrwymiad a’u cefnogaeth yn haeddu cael ei gydnabod a’i ddathlu.” 

Drwy gydol mis Mehefin, bydd sawl digwyddiad y gallwch fynd iddynt i ddangos eich cefnogaeth.  

🔹Pride Sir Benfro – Gŵyl Cynhwysiant: Wedi’i leoli yn Llandyfái, 4 - 6 Gorffennaf  

🔹Pride Llanelli: Wedi’i leoli yng Nghanolfan Selwyn Samuel, 12 Gorffennaf (09:00 – 23:00) 

🔹Pride Llanymddyfri: Wedi’i leoli yn Sgwâr y Farchnad, 2 Awst (10:00 – 20:00)  

🔹Pride Caerfyrddin: Wedi’i leoli yng Nghaerfyrddin, 30 Awst   

“Rwyf eisiau parhau i gefnogi’r Gymuned LHDT+ drwy hyrwyddo amrywiaeth, cynhwysiant, a hawliau cyfartal i bawb,” ychwanegodd y Comisiynydd. “Mae pawb yn haeddu’r hawl i fyw’n rhydd ac i fod yn nhw eu hunain.” 

Y mis hwn, rydyn ni’n cefnogi pawb o fewn y Gymuned LHDT+. Dangoswch eich cefnogaeth drwy wrando ar leisiau cymunedol, mynychu digwyddiadau Pride, ac addysgu eich hun ac eraill am bwysigrwydd bod yn gynghreiriad. Gadewch inni ddathlu gwahaniaethau eraill – Gwrnado, Dysgu, Cefnogi.  

Mis Pride Hapus.  

#MisPride2025  

Gwybodaeth bellach:

OPCC.Communication@dyfed-powys.police.uk

Article Date: 01/06/2025