Bydd Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys yn Sioe Frenhinol Cymru yn Llanelwedd unwaith eto eleni, yn arddangos ei gynlluniau gwirfoddoli ac yn annog y cyhoedd i gymryd rhan yn y broses o ffurfio plismona lleol. 

Bydd Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu (SCHTh) Dyfed Powys yn Sioe Frenhinol Cymru 2025 yn Llanelwedd i dynnu sylw at ei rwydwaith cynyddol o wirfoddolwyr er mwyn annog y cyhoedd i gael dweud eu dweud ar faterion plismona a diogelwch cymunedol. 

Wedi ei leoli yn stondin 478-E ar Rodfa E, bydd tîm SCHTh wrth law drwy gydol yr wythnos i gynyddu ymwybyddiaeth ynghylch ei bedwar cynllun gwirfoddoli; Ymwelwyr Annibynnol â’r Ddalfa, Ymwelwyr Lles Anifeiliaid, Llysgenhadon Ieuenctid a’r Panel Sicrhau Ansawdd er mwyn annog mwy o bobl ar draws ardal Heddlu Dyfed-Powys i gymryd rhan. 

Gall ymwelwyr hefyd gymryd rhan mewn nifer o ymgynghoriadau ac arolygon byw, gan gynnwys: 

  • Arolwg Canfyddiadau ynghylch Plismona– Mae’r arolwg byr hwn yn casglu barnau ar hyder y cyhoedd mewn plismona a’r cynnydd a wnaed tuag at y canlyniadau a osodwyd dan flaenoriaethau Cynllun Heddlu a Throseddu 2025–29 . Mae’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu’n arbennig o awyddus i glywed gan unigolion o amrediad o gefndiroedd er mwyn helpu ffurfio polisi ac ymarfer mwy cynhwysol: 
  • Arolwg Troseddau Cefn Gwlad – Wedi ei gynnal mewn partneriaeth gyda Phrifysgol Aberystwyth, amcan yr arolwg hwn yw deall effaith troseddau cefn gwlad a sut y gellir ymdrin yn well â hyn yn ardal Dyfed-Powys: 🔗 Cwblhewch yr Arolwg Troseddau Cefn Gwlad 
  • Arolwg Ieuenctid – Ar gael i bobl 18–25 oed, mae’r arolwg hwn yn ceisio barnau ar blismona a chyfiawnder ieuenctid yn yr ardal fel rhan o arolwg ehangach y Pwyllgor Dethol. Bydd ymatebion yn helpu hysbysu dulliau atal a chefnogi yn y dyfodol: 🔗 Cwblhewch yr Arolwg Ieuenctid  
  • Galwad Agored am Dystiolaeth – Ynghyd â’r arolwg, gwahoddir aelodau o’r cyhoedd a sefydliadau hefyd i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig ar faterion sy’n effeithio ar bobl ifanc a diogelwch cymunedol.  

Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Dafydd Llywelyn: 

“Mae Sioe Frenhinol Cymru’n gyfle pwysig i fy swyddfa ymgysylltu gyda chymunedau ar draws ardal Dyfed-Powys. Drwy ein cynlluniau gwirfoddoli ac ymgynghoriadau cyfredol rydym yn grymuso pobl i gael llais mewn plismona lleol a chwarae rôl weithredol wrth ffurfio cymunedau mwy diogel. Byddwn yn annog unrhyw un sy’n ymweld â’r tîm i ddarganfod sut y gallant gymryd rhan.” 

Dewch i ymweld â thîm SCHTh yn stondin 478-E ar Rodfa E i ddysgu mwy a chymryd rhan. 

Gwybodaeth bellach:

OPCC.Communication@dyfed-powys.police.uk

Article Date: 21/07/2025