Fel eich Comisiynydd, diogelwch yr holl breswylwyr a wasanaethir gan Heddlu Dyfed-Powys yw fy mlaenoriaeth.
Mae’r Cynllun Heddlu a Throseddu 2017-21 yn gosod y cyfeiriad strategol a’r blaenoriaethau ar gyfer Heddlu Dyfed-Powys, ac rwyf yn edrych ymlaen at weithio’n agos gyda’r Prif Gwnstabl i gyflawni fy amcanion.
Fy mlaenoriaethau yw:
- Cadw ein cymunedau’n ddiogel.
- Diogelu’r rhai agored i newid.
- Amddifyn ein cymunedau rhag bygythiadau difrifol.
- Chysylltu gyda chymunedau.
Mae’r blaenoriaethau yma wedi eu seilio ar fy ngwybodaeth bersonol, broffesiynol ac ymarferol ac y maent wedi eu ffurfio gan y cyhoedd a rhanddeiliaid lleol. Diolch i bawb a wnaeth gysylltu a mi gyda’ch adborth ar ddrafft y Cynllun yn gynharach yn y flwyddyn.
Byddaf yn adolygu fy Nghynllun yn flynyddol i sicrhau eu bod yn parhau’n addas i’r ddiben.
Sut byddaf yn gwybod os yr ydym wedi cyflawni fy mlaenoriaethau?
Yn cefnogi’r Cynllun Heddlu a Throseddu hwn mae Cynllun Trosglwyddo sy’n nodi’r modd y mae plismona’n cael ei drosglwyddo yn unol â blaenoriaethau’r Cynllun Heddlu a Throseddu. Mae’r Cynllun Trosglwyddo yn cynnwys mesurau a fydd yn caniatáu i mi fonitro perfformiad.
Byddaf yn cyhoeddi gwybodaeth yn rheolaidd ar fy ngwefan a fydd yn dangos y cynnydd yn erbyn fy nghynllun.