Polisiau

Strategaeth

 

Strategaeth Archif

 

Gofynion deddfwriaethol

  • Safonau Cyhoeddi
    Amserlen Gofynion Gorchymyn Cyrff Plismona Lleol Etholedig Excel Rhestr o’r wybodaeth mae’n rhaid imi gyhoeddi yn ôl y gyfraith, gyda manylion ynghylch sut y mae hyn yn cael ei gyflawni. Mae’n cynnwys yr angen ar gyfer manylion ynghylch dalwyr swyddfa, staff, incwm a gwariant, eiddo, hawliau a rhwymedigaethau, penderfyniadau a pholisïau.

 

Ymchwil ac Arweiniad

  • Astudiaeth Troseddau Gwledig Prifysgol Aberystwyth - Mehefin 2022 - Yr adroddiad hwn yw'r trydydd mewn cyfres o werthusiadau bob dwy flynedd o'r mentrau troseddu a phlismona gwledig a ddatblygwyd ar draws Dyfed-Powys; yn ogystal â’r archwiliadau rhanbarthol sydd wedi’u cyhoeddi yn 2017 a 2019, am y tro cyntaf eleni estynnwyd yr arolwg ar draws pob un o’r pedwar heddlu yng Nghymru. Ynghyd â’r ffocws ehangach hwn y tu hwnt i Ddyfed-Powys, roedd yr arolwg presennol hefyd yn targedu trigolion gwledig yn fwy cyffredinol – ochr yn ochr â’r gymuned ffermio – i ganfod eu barn ar blismona, trosedd ac effeithiau ehangach yn sgil Covid a Brexit.
  • Astudiaeth Troseddau Gwledig Aberystwyth – Rhagfyr 2017 – Mae’r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar droseddau gwledig a throseddau fferm yn ardal blismona Dyfed-Powys. Ei diben oedd mynd i’r afael ag anghenion penodol Heddlu Dyfed-Powys (HDP) mewn perthynas â chofnodi troseddau fferm a throseddau gwledig ac ymchwilio iddynt.

  • Canllawiau Teledu Cylch Cyfyng Gorffennaf 2015
    Manylion am y safonau lleiaf am y ddarpariaeth o ran teledu cylch cyfyng mewn man cyhoeddus neu eiddo trwyddedig i fabwysiadu safon gyffredin ledled Dyfed-Powys. Adolygir gan Heddlu Dyfed-Powys yn flynyddol.
  • Adolygiad TCC – 2014 crynodeb
    Asesiad o werth teledu cylch cyfyng a ariennir yn gyhoeddus yn Nyfed-Powys i gefnogi’r Cynllun Heddlu a Throseddu. Hysbysodd strategaeth TCC ar gyfer y rhanbarth.  Adroddiad llawn
  • Arolwg Rheoli Perfformiad – 2014
    Adolygiad o reoli perfformiad gan Heddlu Dyfed-Powys a’m swyddfa. Cynhaliwyd yr arolwg gan Crest Advisory. Fy ymateb
  • Plismona Cymunedau Gwledig – 2015
    Astudiaeth – o’r enw Cyswllt Gwledig – i’r ffordd y gall Heddlu Dyfed-Powys gysylltu â phobl sy’n byw mewn cymunedau gwledig. Cyflawnwyd yr astudiaeth gan Sefydliad y Prifysgolion ar Wyddorau’r. Fy ymateb
  • Adolygiad o Lenyddiaeth Plismona a Throseddau Gwledig – 2015
    Golwg ar lenyddiaeth ymchwil ar blismona a throseddau gwledig er mwyn helpu i ddeall beth sy’n gweithio yn y maes hwn. Cynhaliwyd yr adolygiad gan Sefydliad y Prifysgolion ar Wyddorau’r Heddlu.

 

Adroddiadau

 

ASESIADAU O’R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB