Ariannu
Ariannu
Ariannu Cymunedol y Comisiynydd
Mae’r Cynllun Heddlu a Throseddu’n nodi blaenoriaethau’r Comisiynydd ac yn manylu ar sut y byddant yn cael eu cyflenwi.
Drwy gydol y flwyddyn, mae’r Comisiynydd yn cynnig cyfleoedd cyllido ar gyfer prosiectau a gyflenwir gan grwpiau cymunedol, sefydliadau elusennol a chyrff eraill. Mae’r Comisiynydd yn croesawu ceisiadau grant sy’n cyfrannu at gyflenwi blaenoriaethau’r Cynllun Heddlu a Throseddu ac yn gwella ansawdd bywyd ar gyfer trigolion ardal Dyfed-Powys.
Mae’r Comisiynydd hefyd yn rhoi rhoddion elusennol i sefydliadau sy’n cyflenwi a/neu’n cefnogi gweithgarwch sy’n cadw cymunedau Canolbarth a Gorllewin Cymru’n ddiogel rhag niwed.
Mae Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu yn oedi ceisiadau am gyllid cymunedol ar hyn o bryd, wrth gynnal adolygiad o'r prosesau ariannu.
Does dim cyfleoedd grantiau ariannu ar agor ar hyn o bryd. Mae rhoddion gwerth isel ar gael – llenwch ffurflen cais rhodd SCHTh o'r adran lawrlwytho a'i hanfon yn ôl i OPCC@dyfed-powys.police.uk