Yn ystod Wythnos Gwirfoddolwyr, cynhaliodd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu (CHTh) Dafydd Llywelyn weminar lwyddiannus yn canolbwyntio ar yr amrywiol gynlluniau gwirfoddoli y mae Swyddfa’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu (SCHTh) yn eu cynnig yn ardal plismona Dyfed-Powys.

Roedd gweithwyr proffesiynol, myfyrwyr, a gwirfoddolwyr cyfredol SCHTh yn bresennol yn y digwyddiad rhithiol a oedd yn archwilio sut y gall gynlluniau gwirfoddoli SCHTh gael effaith cadarnhaol ar blismona yn ardal Dyfed-Powys a chreu gwell perthnasau gyda chymunedau lleol.

Cyflwynodd y CHTh Dafydd Llywelyn y swyddogion cyswllt gwirfoddolwyr a wnaeth ddisgrifio pob un o’r 7 cynllun gwirfoddoli; gan gynnwys gweithgareddau a dyletswyddau, sut y mae gwirfoddolwyr wedi dylanwadu ar newid cadarnhaol, a gofynion ar gyfer pob cynllun. Yn ddiweddarach cafodd y mynychwyr gyfle i ofyn cwestiynau i’r CHTh a’r swyddogion cyswllt.

Dywedodd Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu a Throseddu:

“Un o’r prif bwyntiau a ddaeth i’r amlwg drwy’r weminar yw nad dim ond cymunedau sy’n cael budd drwy fy nghynlluniau gwirfoddoli, maent hefyd yn grymuso unigolion drwy adeiladu sgiliau a hyder y gallant eu defnyddio yn y dyfodol. Mae gwirfoddolwyr ar gyfer fy swyddfa’n creu cysylltiad â pherthynas hanfodol rhwng Heddlu Dyfed Powys a’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Diolch yn fawr i bob un a ddaeth i fy ngweminar!

Gwyliwch y weminar yma: https://youtu.be/JQPULIH3AYg?si=qUDNQXeu4D3A6ot0

I gael mwy o wybodaeth ynghylch ein cynlluniau gwirfoddoli, ewch at: https://www.dyfedpowys-pcc.org.uk/cy/atebolrwydd-a-chraffu/cynlluniau-gwirfoddoli/

Article Date: 03/06/2026