Mae CHTh Dafydd Llywelyn yn tynnu sylw at y gefnogaeth sydd ar gael i deuluoedd sydd wedi colli anwylyn mewn gwrthdrawiad traffig y ffyrdd fel rhan o Wythnos Diogelwch y Ffyrdd, a gynhelir o 15 i 21 Tachwedd 2026.

Mae Gwasanaeth Cymorth Dioddefwyr Ffyrdd, a gomisiynir gan y CHTh ac a gyflwynir gan yr elusen annibynnol Cymorth i Ddioddefwyr, yn darparu cymorth cyfrinachol am ddim i deuluoedd mewn galar ledled ardal Dyfed-Powys.

Cynigir Gweithiwr Achos proffesiynol sy’n gallu darparu cymorth emosiynol, gwybodaeth ymarferol ac arweiniad ar y broses cyfiawnder troseddol i deuluoedd. Gall y gwasanaeth helpu teuluoedd i gael mynediad at gymorth arbenigol arall hefyd.

Dywedodd CHTh Dafydd Llywelyn: “Tu ôl i bob marwolaeth ar ein ffyrdd mae teuluoedd, ffrindiau a chymunedau sydd â’u bywydau wedi newid am byth.

“Ochr yn ochr â’r gwaith i wneud ein ffyrdd yn fwy diogel, mae’n rhaid inni sicrhau bod teuluoedd mewn galar yn cael cefnogaeth pan maen nhw ei hangen. Mae’r gwasanaeth hwn yn cynnig rhywun i wrando, ateb cwestiynau a helpu pobl drwy gyfnod anodd iawn.

“Byddwn yn annog unrhyw un sydd angen cymorth i gysylltu.”

Gall teuluoedd gysylltu â’r gwasanaeth yn uniongyrchol neu gael eu cyfeirio drwy Swyddog Cyswllt Teulu’r Heddlu.

Am ragor o wybodaeth, galwch heibio i’n tudalen Gwasanaeth Cymorth Dioddefwyr Ffyrdd. Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys

Gwybodaeth bellach:

OPCC.Communication@dyfed-powys.police.uk

Article Date: 16/11/2026