Dathlu Gwirfoddolwr Hirsefydlog â Gwobr
Mae gwirfoddolwr ymroddedig wedi’i gydnabod am ei ymrwymiad neilltuol a’i wasanaeth i’r gymuned â Gwobr Ymrwymiad a Gwasanaeth.
Cyflwynwyd y wobr i gydnabod 10 mlynedd o wasanaeth gwirfoddol Spencer gyda Phanel Sicrhau Ansawdd SCHTh. Yn ystod yr amser hwn, mae Spencer wedi gwneud cyfraniad sylweddol drwy broffesiynoldeb ac ymrwymiad parhaus.
Dywedodd Dafydd Llywelyn, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu:
“Pleser o’r mwyaf oedd cydnabod cyfraniad neilltuol Spencer heddiw. Mae ei 10 mlynedd o wasanaeth gyda’r Panel Sicrhau Ansawdd wir yn ysbrydoledig, ac yn dyst i effaith barhaol gwirfoddolwyr. Rwyf i a Heddlu Dyfed-Powys wedi gwerthfawrogi’ch cyfraniadau’n fawr, a byddwn yn parhau i wneud. Bu’n bleser gweithio gyda chi dros yr holl flynyddoedd.”
Bydd y Panel yn craffu ar brosesau feysydd o gysylltiad yr Heddlu â’r cyhoedd, er enghraifft, achosion cwyn, cofnodion Stopio a Chwilio a'r ffordd mae’r heddlu’n trin galwadau a dderbynnir gan Ganolfan Gyfathrebu’r Heddlu h.y. galwadau 101 a 999. Mae materion a godir yn cael eu hystyried gan yr arweinyddion adran berthnasol a rhoddir diweddariadau imi.
Dywedodd Spencer:
“Wrth edrych yn ôl, rwyf wedi mwynhau fy amser gyda'r Panel Sicrhau Ansawdd yn fawr. Roedd hi'n hynod ddiddorol bod yn rhan o'r cychwyn cyntaf ac yna cael cyfle i gyfrannu at ei ddatblygiad, gan weld y galw am wasanaethau ein panel yn cynyddu wrth i'r Heddlu gydnabod yn gynyddol werth ein gwaith craffu annibynnol. Mae hefyd yn rhoi boddhad gweld bod heddluoedd eraill bellach yn dangos diddordeb yn ein dull gweithredu.”
Er mwyn dysgu mwy am ddod yn wirfoddolwr, galwch heibio i: https://www.dyfedpowys-pcc.org.uk/cy/atebolrwydd-a-chraffu/cynlluniau-gwirfoddoli/
Gwybodaeth bellach:
Article Date: 29/09/2026