Diwrnod Agored Ieuenctid ym Mhencadlys Heddlu Dyfed-Powys
n ddiweddar, agorodd Pencadlys Heddlu Dyfed-Powys ei ddrysau i groesawu disgyblion a myfyrwyr o ysgolion a cholegau ar draws yr ardal, gan roi cyfle unigryw iddynt fynd tu ôl i’r llenni a dysgu mwy am blismona.
Roedd y diwrnod arbennig, a gynhaliwyd gan Dafydd Llywelyn, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu (CHTh), yn cynnig amserlen lawr o sesiynau rhyngweithiol ac arddangosiadau a luniwyd i ddangos yr amrywiaeth o yrfaoedd a rolau o fewn plismona.
Dywedodd CHTh Llywelyn:
“Braf oedd croesawu’r bobl ifainc o bob cwr o ardal Dyfed-Powys i’r Pencadlys. Mae digwyddiadau fel hyn yn ffordd bwysig o ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol i ystyried gyrfa mewn plismona a dangos ehangder y gwaith sy’n digwydd tu ôl i’r llenni i gadw ein cymunedau’n ddiogel.
"Hoffwn ddiolch i’r holl fyfyrwyr ac athrawon a ymunodd â ni am y diwrnod, yn ogystal â’r swyddogion a staff niferus a roddodd o’u hamser i gyflenwi sesiynau ac arddangosiadau mor atyniadol. Gwnaeth eu brwdfrydedd a’u gwaith tîm y digwyddiad yn llwyddiant ysgubol."
Gwybodaeth bellach:
Article Date: 01/06/2025