Gwahoddwyd busnesau a sefydliadau i gynhadledd am ddim a oedd yn trafod seiberwydnwch ym Mharc y Scarlets yn gynharach y mis hwn.

Wedi’i chynnal gan Ganolfan Seiberwydnwch Cymru mewn partneriaeth â Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys a Llywodraeth Cymru, daeth y gynhadledd ag arbenigwyr seiberddiogelwch a sefydliadau at ei gilydd. Rhannwyd cyngor ymarferol, mewnwelediadau byd real a’r canllawiau diweddaraf ynghylch cryfhau seiberwydnwch.

 seiberwydnwch yn parhau i esblygu, mae sefydliadau o bob maint yn wynebu bygythiadau sy’n gynyddol soffistigedig. Rhoddodd y gynhadledd gyngor ymarferol, mewnwelediadau byd real a chamau syml y gall busnesau a sefydliadau eu cymryd i gryfhau eu seiberwydnwch ac amddiffyn eu hunain yn well rhag seiberdroseddu.

Clywodd y rhai a oedd yn bresennol gan arbenigwyr seiberddiogelwch, cynrychiolwyr o Heddlu Dyfed-Powys, a’r siaradwr gwadd Nigel Owens MBE, a rannodd fewnwelediadau yn ystod prynhawn o gyflwyniadau arbenigol, cyngor ymarferol a chyfleoedd rhwydweithio. Daeth Nigel Owens MBE â’r gynhadledd i ben â sgwrs rymus, gan drafod ei stori ei hun am wydnwch personol. 

 Dywedodd Dafydd Llywelyn, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu:
“Nid dim ond sefydliadau mawr mae troseddwyr yn targedu. Mae busnesau bach, elusennau a grwpiau cymunedol yn cael eu targedu fwyfwy hefyd, gan ei wneud yn bwysicach nag erioed i sefydliadau ddeall sut i amddiffyn eu hunain.  

“Cynigodd y gynhadledd hon gyfle gwych i glywed gan arbenigwyr, dysgu ffyrdd ymarferol o leihau risg a chryfhau gwydnwch yn erbyn bygythiadau seiber sy’n dod i’r amlwg. Rwy’n ddiolchgar i’n holl siaradwyr, a roddodd gyflwyniadau craff, a hoffwn ddiolch i bawb a ddaeth i’r digwyddiad.”

Gwybodaeth bellach:

OPCC.Communication@dyfed-powys.police.uk

Article Date: 24/09/2026