Mae Heddlu Dyfed Powys yn falch o allu cefnogi Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb; cyfle hanfodol i ailddatgan nad oes gan gasineb unrhyw le yn ein cymunedau.

Mae ymgyrch wythnos o hyd sy’n rhedeg o Hydref 10 i 17, yn rhoi cyfle i godi ymwybyddiaeth o droseddau casineb, sut i’w riportio, sut i ymdrin â nhw a thynnu sylw at y gwasanaethau cefnogi hanfodol sydd ar gael i ddioddefwyr.

Mae pawb yn haeddu teimlo’n ddiogel. Pa un a ydynt yn digwydd ar-lein neu wyneb yn wyneb, mae troseddau casineb yn cael effaith dwfn ar ddioddefwyr, eu teuluoedd ac yn treiddio i gymunedau.

Dywedodd yr Uwcharolygydd Louise Harries:
“Mae gan bawb yr hawl i fyw heb ofn gwahaniaethu a rhagfarn.

“Gwaetha’r modd, mae llawer o bobl yn cael eu targedu am ddim heblaw bod yn nhw eu hunain, ac mae unrhyw fath o drosedd casineb yn gwbl annerbyniol.

“Yn ystod yr wythnos nesaf, bydd swyddogion a staff yn cymryd rhan mewn amrywiaeth eang o weithgareddau yn ein cymunedau lleol, yn addysgu ynghylch troseddau casineb ac yn annog pobl i’w riportio.

"Rydym yn gwybod nad yw cyfran o droseddau a digwyddiadau casineb yn cael eu riportio, ac mae angen i ni ddeall y problemau yn ein cymunedau a sicrhau ein bod rhoi cefnogaeth i’r rhai hynny sydd ei angen.

“Mae ein bod yn ymgysylltu yn allweddol; rydym eisiau i bobl sy’n byw ac yn gweithio yn ardal Dyfed Powys i deimlo’n ddiogel ac wedi eu grymuso i wrthwynebu troseddau a digwyddiadau casineb, gwybod i bwy y gallant droi, a deall sut mae eu hadroddiadau wir yn gwneud gwahaniaeth.”

Meddai Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dafydd Llewelyn:
“Gall trosedd gasineb adael pobl yn ofni gwneud pethau bob dydd, gadael eu cartref, mynd i’r gwaith neu gymryd rhan yn eu cymuned. Ni ddylai neb orfod byw gyda’r ofn hynny.

“Mae gan y gwasanaethau rydym yn eu comisiynu rôl hanfodol wrth helpu pobl sydd wedi’u heffeithio gan drosedd gasineb i gael cymorth ymarferol ac emosiynol, deall eu heb opsiynau a adennill eu hunaniaeth. Rhaid i’r cymorth hwn gydnabod y person tu ôl i bob adroddiad a’r effaith ar eu bywyd.

“Ar draws ardal Dyfed-Powys, rhaid i ni wrando ar ein cymunedau siapio sut rydym yn ymateb i gasineb. Drwy weithio gyda’n gilydd gyda chymdeithasau lleol a gwasanaethau cymorth, gallwn herio rhagfarn, cryfhau hyder wrth gyrru adroddiadau a helpu sicrhau bod pobl yn teimlo’n ddiogel, yn cael eu gwerthfawrogi ac yn gallu bod yn hwy eu hunain.’

Gallwch roi adroddiad am drosedd casineb yn uniongyrchol i’r heddlu.

Os nad ydych yn siŵr a yw’r digwyddiad rydych yn ei riportio’n drosedd casineb, gallwch gael mwy o wybodaeth yma.

Gallwch riportio trosedd casineb, gan gynnwys casineb ar-lein yn uniongyrchol, a chael gwybodaeth bellach ynghylch y gefnogaeth sydd ar gael ar gyfer riportio yma.

 

Gwybodaeth bellach:

OPCC.Communication@dyfed-powys.police.uk

Article Date: 12/10/2026