Ar ddydd Iau 15 Hydref, treuliodd y Comisiynydd Llywelyn y diwrnod ym Mhowys yn cwrdd â chynghorwyr lleol, partneriaid cymunedol ac Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd fel rhan o’i Ddiwrnodau Ymgysylltu Cymunedol, sy’n tynnu sylw at yr ymrwymiad parhaus i amlygrwydd a hygyrchedd ledled ardal blismona Dyfed-Powys. 

Dechreuodd y diwrnod â chyfarfod gyda’r Cynghorydd Jones lle y trafododd CHTh faterion a oedd yn bwysig i’r ardal leol.  

Ar ôl cwrdd â chynghorwyr, ymwelodd CHTh Llywelyn â Phrosiect Newid y Gêm. Wedi’i leoli ger y Drenewydd, mae Prosiect Newid y Gêm yn cynnig rhaglenni dysgu awyr agored arloesol i bobl ifainc ledled Powys. Mae’r prosiect yn cefnogi cyfranogwyr i ddatblygu hyder, cadernid a sgiliau bywyd hanfodol drwy weithgareddau ymarferol, mentora a hyfforddiant galwedigaethol. Drwy helpu pobl ifainc i ailgysylltu ag addysg, gwella eu lles ac archwilio i gyfleoedd gyrfa yn y dyfodol, mae’r prosiect yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i gymunedau ledled Canolbarth Cymru.

Yna, ymunodd y Comisiynydd Llywelyn â’r Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd i gysgodi eu gwaith yn ystod ymweliad â dalfa’r Drenewydd.

Gwirfoddolwyr o’r gymuned leol yw Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd sy’n ymweld â dalfeydd yr heddlu mewn parau’n ddirybudd i gadw golwg ar les carcharorion a sicrhau bod eu hawliau’n cael eu cynnal.  

Mae’r gwirfoddolwyr yna’n adrodd am unrhyw broblemau drwy gyflwyno ffurflen adrodd i’r CHTh, ac edrychir ar y rhain er mwyn gwneud gwelliannau. Mae ceisiadau ar agor ar hyn o bryd ar gyfer y cynllun Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd. Galwch heibio i’n tudalen we am ragor o fanylion:

Dywedodd y Comisiynydd Llywelyn:
Diolch i bawb a gymerodd yr amser i gwrdd â mi heddiw. Mae bod allan yn y gymuned yn rhoi cyfle gwych i glywed gan bobl yn uniongyrchol a thrafod materion sydd wir yn bwysig i aelodau o’r gymuned.  

Gwybodaeth bellach:

OPCC.Communication@dyfed-powys.police.uk

Article Date: 16/10/2026