Mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu (CHTh) Dyfed-Powys, Dafydd Llywelyn, wedi ailddatgan ei ymrwymiad i fynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod a merched drwy lofnodi Addewid y Rhuban Gwyn ym Mhencadlys Heddlu Dyfed-Powys.

Mae llofnodi’r addewid yn nodi Diwrnod Rhuban Gwyn, sef ymgyrch flynyddol sy’n annog unigolion, sefydliadau a chymunedau i weithredu er mwyn atal trais yn erbyn menywod a merched.

Drwy lofnodi’r addewid, mae CHTh yn adnewyddu ei ymrwymiad i beidio byth â chyflawni, esgusodi nac aros yn dawel am drais dynion yn erbyn menywod.

Mae Diwrnod Rhuban Gwyn hefyd yn rhoi cyfle i dynnu sylw at bwysigrwydd herio ymddygiadau ac agweddau niweidiol, hyrwyddo perthnasau iach a sicrhau bod dioddefwyr a goroeswyr yn gallu cael mynediad i’r cymorth y mae arnynt ei angen.

Fel rhan o’i swydd, mae CHTh yn comisiynu ystod o wasanaethau i gefnogi dioddefwyr trosedd ledled ardal Dyfed-Powys, gan gynnwys cymorth arbenigol i’r rhai sydd wedi’u heffeithio gan gam-drin domestig a thrais rhywiol.

Mae fideo newydd sy’n tynnu sylw at y gefnogaeth sydd ar gael drwy'r gwasanaethau a gomisiynir gan y CHTh hefyd wedi’i gynhyrchu, gan helpu i godi ymwybyddiaeth o’r gwasanaethau sydd ar gael a sut y gall pobl gael mynediad iddynt.

Dywedodd Dafydd Llywelyn, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu:

“Mae Diwrnod Rhuban Gwyn yn ein hatgoffa bod gan bawb ohonom gyfrifoldeb i herio trais yn erbyn menywod a merched a’r agweddau ac ymddygiadau sy’n caniatáu iddo barhau.

“Drwy lofnodi Addewid y Rhuban Gwyn unwaith yn rhagor, rwy’n ailddatgan fy ymrwymiad personol i’r ymgyrch hon ac yn annog eraill ar draws Dyfed-Powys i ystyried y rhan y gallant chwarae o ran creu cymunedau mwy diogel.

“Fel Comisiynydd, rwyf wedi ymrwymo i sicrhau bod gan ddioddefwyr a goroeswyr fynediad i’r cymorth a’r gwasanaethau arbenigol y mae arnynt eu hangen. Drwy’r gwasanaethau a gomisiynir gan fy Swyddfa, ry’n ni’n parhau i weithio gyda phartneriaid i gefnogi’r rhai sydd wedi’u heffeithio gan drosedd.

“Byddwn yn annog pawb i gymryd yr amser i ddysgu mwy am Ddiwrnod Rhuban Gwyn, gwneud yr addewid a darganfod sut y gallant helpu i wneud gwahaniaeth.”

Mae CHTh yn annog sefydliadau, ysgolion a chymunedau ledled ardal Dyfed-Powys i gefnogi’r ymgyrch Rhuban Gwyn a helpu i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd atal trais yn erbyn menywod a merched.

Darganfod mwy:

 

 

Gwybodaeth bellach:

OPCC.Communication@dyfed-powys.police.uk

Article Date: 25/11/2026