Ar ddydd Llun 22 Mehefin, gwahoddodd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu (CHTh) Dafydd Llywelyn randdeiliaid i Bencadlys yr Heddlu i gymryd rhan mewn Bwrdd Crwn ar Ffyrdd. 

Daeth rhanddeiliaid, gan gynnwys cynghorau sir, cynghorwyr, Gan Bwyll, a Heddlu Dyfed-Powys, ynghyd i drafod pryderon ynghylch ffyrdd ardal Dyfed-Powys, a gwneud argymhellion ar welliannau a chydweithio i wella gwasanaethau. 

Rhoddodd y bwrdd crwn gyfle i drafod yn onest rhwng rhanddeiliaid, Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, a Heddlu Dyfed-Powys. 

Y mis hwn, cyhoeddodd y CHTh Dafydd Llywelyn Gronfa Cyllid Diogelwch Ffyrdd newydd. Mae'r Gronfa wedi ei lansio i gefnogi mentrau lleol sy'n gwella diogelwch ar ein ffyrdd ar draws ardal Dyfed-Powys. Nod y cyfle cyllido hwn yw grymuso grwpiau cymunedol, sefydliadau a phartneriaid i gyflawni prosiectau sy'n codi ymwybyddiaeth, yn dylanwadu ar ymddygiad, ac yn lleihau'r risg o wrthdrawiadau a niwed. 

Am ragor o wybodaeth am y Gronfa Cyllid Diogelwch Ffyrdd, ewch i: https://www.dyfedpowys-pcc.org.uk/cy/cyllid/cyllid/  

Article Date: 29/06/2026