Wythnos Ymwybyddiaeth Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2026
Fel rhan o Wythnos Ymwybyddiaeth Ymddygiad Gwrthgymdeithasol rydym wedi codi ymwybyddiaeth o effaith ymddygiad gwrthgymdeithasol a phwysigrwydd gweithredu i ostwng ei effeithiau ar ein cymunedau.
Rydym hefyd yn cydnabod gwaith anhygoel ein gwasanaethau a gomisiynir, gan gynnwys Cymorth i Ddioddefwyr, wrth ddarparu cefnogaeth hanfodol i ddioddefwyr ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae’r sefydliadau hyn yn chwarae rhan hollbwysig wrth helpu unigolion yr effeithiwyd arnynt gan ymddygiad gwrthgymdeithasol i ail-adeiladu eu bywydau a llywio’r gefnogaeth sydd ar gael iddynt.
Rhan allweddol o ymdrin ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yw sicrhau bod gan ddioddefwyr lais yn y broses. Os ydych wedi dioddef ymddygiad gwrthgymdeithasol parhaus ac yn teimlo nad ymdriniwyd ag ef, mae’r Adolygiad Achos Ymddygiad Gwrthgymdeithasol (Sbardun Cymunedol yn flaenorol) yn erfyn pwysig sydd ar gael i chi. Mae’n caniatáu i ddioddefwyr ofyn am adolygiad o’r modd y mae eu hachos wedi ei drin, gan sicrhau ei fod yn cael ei asesu’n briodol a’i uwchgyfeirio os oes angen. Gall Adolygiad Achos ymdrin â materion fel aflonyddwch oherwydd sŵn, aflonyddwch oherwydd anifeiliaid, defnydd gwrthgymdeithasol o gerbydau, ac ymddygiad bygythiol.
Dysgwch fwy am yr Adolygiad Achos Ymddygiad Gwrthgymdeithasol a sut y gall eich helpu: https://www.dyfedpowys-pcc.org.uk/cy/tryloywder/adolygiad-achos-ymddygiad-gwrthgymdeithasol/.
Drwy gydol Wythnos Ymwybyddiaeth Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2026, rydym wedi ymrwymo i gydweithio gyda chymunedau i sicrhau bod pob preswylydd yn teimlo’n ddiogel ac wedi eu cefnogi. Dilynwch ni yr wythnos hon ar gyfryngau cymdeithasol @DPOPCC, ymunwch â’r sgwrs gyda #WythnosYmwybyddiaethYG, a dysgwch sut y gallwch gymryd rhan.
Gwybodaeth bellach:
Article Date: 29/06/2026