Partneriaethau
Gwasanaethau
Cysylltiadau Defnyddiol
Partneriaethau
Dywed Deddf Diwygio’r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011: “Mae gan gomisiynwyr ddyletswydd i weithio gyda phartneriaid er mwyn atal a mynd i’r afael â throsedd”
Mae’r dyletswyddau partneriaeth allweddol yn cynnwys:
- Dyletswydd diogelwch cymunedol; dyletswydd gytbwys i gydweithio i leihau trosedd ac anhrefn, ymddygiad gwrthgymdeithasol, aildroseddu a chamddefnyddio sylweddau
- Dyletswydd cyfiawnder troseddol; darparu System Cyfiawnder Troseddol effeithiol ac effeithlon ar gyfer yr ardal heddlu
- Diogelu; Cyfrifoldeb am ddiogelu plant a phobl ifainc a hybu eu lles
Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Lleol
Cymorth ychwanegol
Tîm Cyfiawnder Ieuenctid
- Cyngor Sir Gaerfyrddin
- Cyngor Sir Ceredigion
- Cyngor Sir Benfro
- Cyngor Sir Powys
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu wedi rhoi arian grant i bob un o’r Timoedd Cyfiawnder Ieuenctid o fewn Dyfed-Powys i gefnogi costau adnoddau Gweithiwr Achos Cyfiawnder Adferol Ieuenctid.
Bydd y Prosiect Dioddefwyr a Chyfiawnder Adferol Cyfiawnder Ieuenctid Rhanbarthol yn rhoi cymorth i ddioddefwyr ac yn galluogi i’w lleisiau gael eu clywed yn ystod pob cam o’r System Cyfiawnder Ieuenctid a chefnogi cyflenwi blaenoriaethau’r Cynllun Heddlu a Throseddu o 2025 i 2029.
Mae’r prosiect yn sicrhau bod ymagweddau adferol yn cael eu defnyddio mewn ffordd a fyddai’n elwa’r plentyn, y dioddefydd a’r gymuned ehangach. Mae’r ffocws ar weithgarwch atgyweiriol yn cynnwys:
- helpu pobl ifainc i adnabod y cyfraniad cadarnhaol y gall gael ar gyfer eu hunain ac eraill
- helpu i adeiladu synnwyr yr unigolyn ifanc o hunan-werth drwy adnabod rhywbeth y byddai’n dda ynddo
- sylwi ar rinweddau, talentau, priodoleddau a sgiliau cadarnhaol yr unigolyn ifanc a’u canmol
- helpu pobl ifainc i adlewyrchu ar eu hymddygiad a deall bod gan weithredoedd ganlyniadau
- cynnig cyfleoedd i gefnogi pobl ifainc i ddatblygu buddiannau adeiladol ac ehangu eu gorwelion
Mae Timoedd Cyfiawnder Ieuenctid yn ymgysylltu â phartneriaid, gan gynnwys Heddlu Dyfed-Powys ac adrannau Awdurdod Lleol (cymorth i deuluoedd, gwasanaethau plant, gwasanaethau ieuenctid, adrannau addysg a phartneriaid diogelwch cymunedol) fel rhan o gyflenwi gwasanaeth.
Ceir rhagor o fanylion am weithgarwch y Tîm Cyfiawnder Ieuenctid drwy’r dolenni i’w gwefannau isod:
Y Tîm Cyfiawnder Ieuenctid - Cyngor Sir Caerfyrddin
Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid (GCI) – - Cyngor Sir Ceredigion
Tîm Cyfiawnder Ieuenctid - Cyngor Sir Benfro
Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid - Cyngor Sir Powys