Ymgysylltu Cymunedol

 

Fel rhan o'n Diwrnodau Ymgysylltu Cymunedol, rydym yn trefnu ymweldiadau ag amryw o sefydliadau megis ysgolion, busnesau, grwpiau gwirfoddol a’r rhai a allai deimlo’n agored niwed.

Er mwyn gwneud cais am ymweliad neu apwyntiad, cysylltwch â’r swyddfa pa bynnag ffordd sydd orau i chi, neu llenwch y ffurflen hon.

 

Ymgynghoriad ac Ymgysylltu Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb 2026-2027

Ymgynghoriad ac Ymgysylltu Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb 2026-2027

Lawrlwytho Ymgynghoriad ac Ymgysylltu Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb 2026-2027

Dewch o Hyd i’ch Rôl Wirfoddoli: Gweminar Am Ddim

Ydych chi erioed wedi meddwl sut allwch chi roi rhywbeth yn ôl i gymunedau ardal Dyfed-Powys, ac ar yr un pryd, ennill sgiliau bywyd go iawn?

Mae SCHTh yn cynnal gweminar am ddim ar gyfer y rhai sydd eisiau dysgu mwy am y cynlluniau gwirfoddoli lluosog, cwrdd â’r cydlynwyr gwirfoddolwyr, a chlywed gan siaradwyr gwadd. Mae’r digwyddiad, a gynhelir gan Dafydd Llywelyn, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, yn anelu i helpu pobl o bob oed ledled ardal Dyfed-Powys i ddod o hyd i rolau gwirfoddoli ystyrlon o fewn y system cyfiawnder troseddol.

  • 2 Mehefin 2026 (13:00 – 14:00)
  • Ar-lein, drwy TEAMS

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwella eich CV a dysgu mwy am y system cyfiawnder troseddol, cewch docyn am ddim fan hyn:

https://www.eventbrite.co.uk/e/volunteer-hour-volunteering-with-the-dyfed-powys-opcc-tickets-1617398956819?aff=oddtdtcreator&keep_tld=true