Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus yn Lansio Arolwg Llesiant
Mae Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro wedi lansio arolwg newydd sy’n ceisio barn preswylwyr er mwyn canfod beth sy’n bwysig iddyn nhw ac i’w cymunedau lleol.
Bydd y canlyniadau y bydd y Byrddau’n eu casglu’n eu helpu i ddeall yn well y ffactorau economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol sy’n effeithio ar lesiant unigolion a chymunedau o fewn yr ardaloedd lleol.
Dywedodd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dafydd Llywelyn:
“Rwyf yn annog holl breswylwyr Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Cheredigion i gwblhau’r arolwg hwn. Bydd y data a gesglir gan yr arolwg yn rhoi mewnwelediadau pwysig i Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus pob sir ynghylch barn preswylwyr. Mae eich llais yn bwysig.”
Cwblhewch yr arolwg yma: https://online1.snapsurveys.com/Interview/5828dbab-0e7e-474f-9dd1-3d5dff6f58df
Gellir cwblhau’r arolwg mewn nifer o ieithoedd.
Mae’r arolwg yn cau 8 Awst 2026
Article Date: 19/06/2026