Dewch o Hyd i’ch Rôl Wirfoddoli: Gweminar Am Ddim
Ydych chi erioed wedi meddwl sut allwch chi roi rhywbeth yn ôl i gymunedau ardal Dyfed-Powys, ac ar yr un pryd, ennill sgiliau bywyd go iawn?
Fel rhan o rôl Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, mae’n rhaid i Dafydd Llywelyn ddal yr heddlu i gyfrif. Ers iddo gychwyn ei swydd, mae CHTh Dafydd Llywelyn wedi creu sawl cynllun gwirfoddoli sy’n anelu i hyrwyddo tryloywder, atebolrwydd a chraffu yn y maes plismona.
Mae Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu’n cynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd gwirfoddoli, gan weithio ochr yn ochr â Heddlu Dyfed-Powys a’r system cyfiawnder troseddol.
- Llysgennad Ieuenctid
- Rhwydwaith Ymgysylltu â Dioddefwyr-Goroeswyr
- Ymwelydd Annibynnol â Dalfeydd
- Grŵp Ymgynghorol Annibynnol
- Panel Sicrhau Ansawdd
- Cynllun Lles Anifeiliaid
- Panel Craffu Annibynnol ar Ddalfeydd
-
Panel Craffu Cymunedol
Mae SCHTh yn cynnal gweminar am ddim ar gyfer y rhai sydd eisiau dysgu mwy am y cynlluniau gwirfoddoli lluosog, cwrdd â’r cydlynwyr gwirfoddolwyr, a chlywed gan siaradwyr gwadd. Mae’r digwyddiad, a gynhelir gan Dafydd Llywelyn, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, yn anelu i helpu pobl o bob oed ledled ardal Dyfed-Powys i ddod o hyd i rolau gwirfoddoli ystyrlon o fewn y system cyfiawnder troseddol.
2 Mehefin 2026 (13:00 – 14:00)
Ar-lein, drwy TEAMS
Bydd cyfranogwyr yn clywed gan yr holl gydlynwyr gwirfoddolwyr, a fydd yn trafod eu rolau ac yn cyflwyno’r cynlluniau gwirfoddoli, a gan aelodau o Heddlu Dyfed-Powys am effaith gadarnhaol y gwirfoddolwyr.
Dywed Dafydd Llywelyn, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu:
“Mae’r cynlluniau gwirfoddoli’n cynnig ffordd ardderchog i bobl o bob oed ddysgu sgiliau newydd, cwrdd â phobl newydd a chyfrannu at wella’r system cyfiawnder troseddol. Mae gwaith y gwirfoddolwyr wedi creu newid mawr o fewn Heddlu Dyfed-Powys. Er enghraifft, ni ddefnyddir siwtiau gwrth-niwed yn y ddalfa bellach o ganlyniad uniongyrchol i waith y Panel Craffu Annibynnol ar Ddalfeydd. Mae gwaith y gwirfoddolwyr wir yn amhrisiadwy, ac rwy’n eu canmol am eu gwaith caled a’u hymrwymiad.”
Os oes gennych ddiddordeb mewn gwella eich CV a dysgu mwy am y system cyfiawnder troseddol, cewch docyn am ddim fan hyn:
Am ragor o wybodaeth, anfonwch e-bost at opcc.communication@dyfed-powys.police.uk
Article Date: 19/05/2026