Yn ddiweddar, lansiodd Claire Waxman, Comisiynydd Dioddefwyr Cymru a Lloegr, Arolwg Dioddefwyr 2026. 

Mae arolwg wedi’i lansio er mwyn deall profiadau dioddefwyr, a’u taith drwy’r system cyfiawnder troseddol, yn well. Mae’n rhoi llais i ddioddefwyr a chyfle i rannu eu barn yn agored yn ddienw. Mae’r Comisiynydd Dioddefwyr yn anelu i ddefnyddio canlyniadau’r arolwg i ysgogi newid gwirioneddol yng Nghymru a Lloegr. 

Gall clywed gan ddioddefwyr a’u hanwyliaid helpu i nodi bylchau o ran cymorth, gwella polisïau a gwasanaethau, a sicrhau bod dioddefwyr yn cael eu clywed. 

Dywedodd Dafydd Llywelyn, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu: 

“Fel rhan o’m Cynllun Heddlu a Throseddu ar gyfer 2025-29, un o’m blaenoriaethau yw cefnogi system cyfiawnder troseddol fwy effeithiol. Rwy’n eich annog i gymryd rhan yn yr arolwg hwn fel bod pawb ohonom yn gallu cyfrannu tuag at wneud newid cadarnhaol ar gyfer dioddefwyr ledled Cymru a Lloegr. Mae eich llais chi’n bwysig.” 

Mae’r Arolwg Dioddefwyr yn ddienw, yn cymryd tua 15 munud i’w gwblhau, ac ar agor i unrhyw un 16+ oed sydd wedi profi trosedd ers mis Ionawr 2021 – p’un a ydynt wedi adrodd amdano wrth yr heddlu ai peidio.

Dyddiad cau: 6 Mai 2026 

Er mwyn llenwi’r arolwg, dilynwch y ddolen ganlynol: https://www.tonic.org.uk/victimsurvey2026cymraeg 

 

Gwybodaeth bellach:

OPCC.Communication@dyfed-powys.police.uk

Article Date: 13/04/2026