Swyddi gwag
Prif Swyddog Cyllid, Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu
- Cyflog: £94,890 - £101,130 y flwyddyn; mae’r swydd ar gael yn llawn amser (37 awr yr wythnos) – croesawir ceisiadau ar gyfer amser rhan-amser. Nodwch y bydd yr cyflog yn gyfranedig os caiff eich penodi i’r swydd ar sail rhan-amser.
- Wedi’i leoli yn Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Pencadlys yr Heddlu Caerfyrddin. Mae gweithio o adref hefyd yn cael ei gefnogi.
- Mae'r apwyntiad ar gyfer tymor penodedig o 2 flynedd.
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu’n chwilio am unigolyn o safon uchel i ddod yn Brif Swyddog Cyllid iddo. Bydd y penodai’n chwarae rôl allweddol o ran ei gynghori a’i gefnogi. Y brif swyddogaeth yw darparu’r CHTh â strategaeth ariannol gadarn, a goruchwylio cyllideb y CHTh o ddydd i ddydd. Byddwch chi’n ymuno â thîm proffesiynol bychan sy’n darparu’r CHTh a’i Ddirprwy, ag amrediad o wasanaethau cynnal o safon uchel sy’n cyd-fynd â chynllunio strategaethau ac adnoddau, gweithio mewn partneriaeth, comisiynu a chyflenwi gwasanaethau, rheoli ymgysylltu a gwybodaeth, a chraffu, gwerthuso a pherfformiad. Byddwch hefyd yn sicrhau craffu cyllid effeithiol o holl gweithgareddau’r llu yn ogystal a gwasanaethau a gomisiynwyd, a byddwch yn sicrhau cyswllt effeithiol o ran cyllid â partneriaid allweddol yn lleol a chenedlaethol, a Phanel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 23:55 ar Ddydd Llun 26 Ionawr 2026. Cynhelir cyfweliadau ar 4 Chwefror 2026.
Os ydych chi’n credu bod gennych chi’r sgiliau a’r angerdd ar gyfer y swydd hon, cliciwch y ddolen isod i weld y proffil swydd.
Prif Swyddog Cyllid - Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu -
Rydyn ni’n edrych am bobl dalentog a brwdfrydig i ymuno â Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys
Yma, cewch yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch am gyfleoedd gyrfa sydd gyda ni yn y swyddfa ar hyn o bryd.
Cynlluniau gwirfoddoli
Rydyn ni’n awyddus i sicrhau bod ein gweithlu’n cynrychioli ein cymunedau, ac mae gennym ddiddordeb arbennig mewn derbyn ceisiadau gan ein cymunedau amrywiol. Rhowch wybod inni os hoffech unrhyw gymorth i gwblhau ffurflen gais, neu os oes angen ffurflen gais arnoch ar ffurf amgen.
Ymwelwyr Annibynnol âDalfeydd - Mae’r gwirfoddolwyr hyn yn ymweld â dalfeydd yr heddlu er mwyn gwirio ar les carcharorion a sicrhau y cynhelir eu hawliau. Maen nhw’n ymweld â gorsaf heddlu leol mewn parau, yn ddirybudd, ar unrhyw adeg o'r dydd neu'r nos, ac yn darparu gwiriad annibynnol ar les y carcharorion yn y ddalfa, a'u hamodau. Cewch wneud cais drwy’r e-ffurflen neu drwy lawrlwytho ein ffurflen gais.
Panel Sicrhau Ansawdd - Sefydlwyd y Panel Sicrhau Ansawdd er mwyn craffu ar ansawdd cyswllt yr Heddlu â’r cyhoedd, mewn modd tryloyw ac annibynnol, ar ran y cymunedau o fewn ardal Dyfed-Powys. Cewch wneud cais drwy’r e-ffurflen neu drwy lawrlwytho ein ffurflen gais.
Cynllun Llysgenhadon Ieuenctid - Ein nod gyda’r Cynllun Llysgenhadon Ieuenctid yw sicrhau fod cynifer o bobl ifainc â phosibl yn cael cyfle i lunio dyfodol plismona ac atal trosedd ar draws ardal Dyfed-Powys. Os ydych chi rhwng 16 a 25 oed ac mae gennych ddiddordeb mewn cael gwybod mwy, cliciwch yma.