Panel Craffu Cymunedol
Mae Dafydd Llywelyn, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, wedi lansio Panel Craffu Cymunedol newydd ac mae’n gwahodd aelodau o’r cyhoedd i gymryd rhan.
Bydd aelodau panel yn adolygu cyswllt yr heddlu â’r cyhoedd yn annibynnol mewn modd tryloyw a diduedd. Bydd gwirfoddolwyr yn craffu ar ansawdd rhyngweithiadau’r heddlu, y defnydd moesegol o bwerau’r heddlu a’r gwasanaeth a gyflwynir i gymunedau.
Mae’r panel yn gweithredu fel llais cyhoeddus annibynnol, gan roi barn ac argymhellion i Heddlu Dyfed-Powys er mwyn helpu i gryfhau tryloywder, atebolrwydd a hyder cyhoeddus mewn plismona.
Mae hwn yn gyfle i:
- Cymryd rhan mewn gwaith craffu annibynnol ar yr heddlu
- Helpu i ddylanwadu ar welliannau i arferion yr heddlu
- Ennill profiad a sgiliau bywyd go iawn
- Cynrychioli barn y cyhoedd
Does dim angen profiad blaenorol. Darperir hyfforddiant ac arweiniad.
Rhaid i bob ymgeisydd llwyddiannus gael ei fetio.
Dyddiad y Panel Nesaf: 24 Mehefin 2026
Gwnewch gais ar gyfer y panel nesaf fan hyn:
Dyddiadau Panel:
- Aberystwyth, Ceredigion: 25 Chwefror 2026