Mae'r Swyddfa y Comisiynydd Heddlu a Throseddu wedi ymrwymo i wneud y wefan hon yn hygyrch i bawb sy’n dymuno ymweld â hi.

I ddysgu sut i wneud y wefan yn fwy hygyrch i chi trwy newid gosodiadau eich porydd, cyfrifiadur, allweddell neu lygoden, ewch i dudalen y BBC - My Web My Way.

Ein Polisi Ni

Rydym yn anelu i gyrraedd neu ragori ar y Safon AA a bennir yng Nghanllaw Hygyrchedd y We (Web Content Accessibility Guidelines). Yn ymarferol, golyga hynny ein bod yn:

  • Ceisio defnyddio’r iaith symlaf posib ac osgoi jargon
  • Trefnu ein dogfennau yn rhesymegol gan ddefnyddio paragraffau, penawdau, rhestrau ac elfennau priodol eraill
  • Galluogi defnyddwyr i newid maint y testun
  • Sicrhau digon o gyferbynnedd rhwng y lliwiau cefndir a blaendir
  • Defnyddio testun disgrifiadol mewn dolennau cyswllt sy’n dangos yn glir beth yw’r ddolen
  • Sicrhau bod gan bob delwedd sy’n cyfleu gwybodaeth destun disgrifiadol cyfatebol
  • Darparu allweddau cyrchu
  • Defnyddio cynllun hyblyg a fydd yn addas i sgriniau o bob maint a chydraniad

Gwaith parhaus

Yr ydym yn gweithio gydag Shaw Trust i wella hygyrchedd ein gwefan.

Hygyrchedd - Adborth ac Awgrymiadau

Os oes gennych unrhyw sylwadau neu awgrymiadau am sut y gallwn wneud ein gwefan yn fwy hygyrch, cysylltwch â ni:

Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys
Blwch Post 99
Llangynnwr
Caerfyrddin
Sir Gaerfyrddin
SA31 2PF

E-bost: dppwebmaster@dyfed-powys.pnn.police.uk