24 Ebr 2024
Mewn ymateb i ddigwyddiad difrifol heddiw yn Rhydaman, mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys Dafydd Llywelyn wedi rhyddhau datganiad, yn mynegi ei gonsyrn, a bod ei feddyliau gyda phawb sydd wedi cael eu heffeithio gan y digwyddiad, gan dynnu sylw at y gefnogaeth sydd ar gael gan ein Gwasanaethau Cymorth i Ddioddefwyr - Goleudy.
Dywedodd Mr Llywelyn: “Mae’r digwyddiad trasig a ddigwyddodd yn gynharach heddiw yn Ysgol Dyffryn Aman, Rhydaman wedi fy syfrdanu’n arw. Mae fy meddyliau’n mynd allan i bawb yr effeithiwyd arnynt, gan gynnwys y disgyblion, yr athrawon, a’r staff a fu’n gysylltiedig â’r digwyddiad dychrynllyd hwn neu a fu’n dyst iddo. Mae ein meddyliau hefyd gyda theuluoedd a ffrindiau'r rhai a anafwyd.
“Rwyf am ganmol y rheiny a oedd yn y fan a’r lle, ac a sicrhaodd fod y sefyllfa’n dod o dan reolaeth, a’r gwasanaethau brys a fynychodd i ddiogelu’r safle a’r ardal, a thawelu meddwl y cyhoedd.
“Rwyf wedi bod mewn cysylltiad cyson â’r Prif Gwnstabl ac yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau’r ymchwiliad. Y flaenoriaeth yn awr yw cefnogi cymuned yr ysgol a sicrhau bod y rhai yr effeithir arnynt yn derbyn y gofal a'r cymorth sydd eu hangen arnynt.
“Mae cymorth ar gael drwy ein gwasanaeth cymorth i ddioddefwyr, Goleudy.
“Mae Goleudy yn wasanaeth cymorth cyfrinachol rhad ac am ddim i unrhyw un y mae trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn effeithio arnynt, p’un a ydynt wedi riportio hynny i’r heddlu neu â chyfeirnod trosedd. Mae’r gwasanaeth yn cynnig cymorth personol, emosiynol ac ymarferol i helpu teuluoedd a thystion i oroesi trosedd ac i ymdopi ac ymadfer o’r effaith.
“Nid yw’r gwasanaeth yn cefnogi plant a phobl ifanc yn uniongyrchol ond gall gynorthwyo trwy ganiatâd gan riant neu warcheidwad i alluogi’r teulu i dderbyn y cymorth sydd ei angen. Gall Goleudy hefyd gyfeirio at wasanaethau arbenigol lle gwelir bod angen.
“Mae’r gwasanaeth ar gael drwy hunangyfeirio drwy ffonio 0300 1232996.
“Hoffwn eich annog i rannu’r manylion uchod ag unrhyw un y mae’r digwyddiad heddiw wedi effeithio arnynt a’u hannog i geisio cymorth os oes angen.
“Rwyf am sicrhau’r cyhoedd bod ymchwiliad yr heddlu yn parhau, ac y bydd Swyddogion a staff yn gweithio’n ddiflino i ddeall amgylchiadau’r digwyddiad hwn.
“Rwy’n annog unrhyw un sydd â gwybodaeth a allai gynorthwyo’r ymchwiliad i ddod ymlaen a chysylltu â’r heddlu.
“Mae ein meddyliau gyda phawb sydd wedi’u heffeithio gan y digwyddiad hwn.”
DIWEDD
OPCC.Communication@dyfed-powys.police.uk