Carys Morgans

Mae hon yn rôl statudol sy’n ofynnol yn ôl Deddf Diwygio’r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011.

Mae’r Pennaeth Staff yn gyfrifol am rediad effeithiol ac effeithlon Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, ac fel Swyddog Monitro, mae’n rhoi cyngor ar faterion strategol er mwyn cefnogi cydymffurfiaeth â deddfwriaeth a safonau priodol.

Band Cyflog: £77,409 - £82,626

Beth yw’r peth mwyaf pleserus am eich rôl?

Gweithio ochr yn ochr â Heddlu Dyfed-Powys ac amrediad o bartneriaid er mwyn cynnal cyflwyno gwasanaeth cyhoeddus hollbwysig yn fy ardal leol.

Ers pryd ydych chi wedi bod yn eich swydd?

Cefnogodd y Panel Heddlu a Throseddu fy mhenodiad ym mis Mehefin 2013.

Beth oeddech chi’n ei wneud cyn ymuno â Thîm y Comisiynydd?

Fi oedd Prif Weithredwr Cynorthwyol Awdurdod Heddlu Dyfed-Powys. Cyn hynny, bûm yn gweithio mewn rolau cymorth corfforaethol yn yr Heddlu.