Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys

 

Dywedwch wrthym am weithgarwch craffu diweddaraf eich swyddfa

Mae’n dda gennyf gyflwyno’r ail adroddiad craffu dwys a gyflawnwyd gan fy swyddfa, sy’n edrych ar yr ymagwedd a gymerwyd gan Heddlu Dyfed-Powys wrth fynd i’r afael â’r broblem o gyffuriau anghyfreithlon yn ein cymunedau. Hoffwn ddiolch i aelodau o’r cyhoedd a’r rhai sy’n ymgysylltu â gwasanaethau camddefnyddio cyffuriau am eu cyfraniad i arolygon a gynhaliwyd gan fy swyddfa. Rwy’n fodlon ag ymateb yr heddlu i’r darn hwn o waith, ac rwy’n ddiolchgar i bawb sydd wedi cyfrannu at yr adolygiad.

 

Beth welsoch chi?

Fe’m calonogir gan y ffordd y mae Heddlu Dyfed-Powys yn mynd i’r afael â masnachu cyffuriau anghyfreithlon, a’r ymateb rhagweithiol a gymerwyd gan swyddogion heddlu er mwyn mynd i’r afael â hyn. Mae hyn yn dangos bod cyswllt clir rhwng y blaenoriaethau yn fy Nghynllun Heddlu a Throseddu a’r ffordd y mae plismona’n cael ei gyflenwi ledled Dyfed-Powys.  

Beth sydd ddim yn gweithio cystal?

Mae gwasanaethau cymorth a gweithgareddau dargyfeiriol yn chwarae rôl hollbwysig o ran cynorthwyo’r rhai sydd wedi’u heffeithio gan gamddefnyddio sylweddau, ac rwyf innau’n ariannu nifer o’r gwasanaethau hyn yn bersonol yn Nyfed-Powys. Ar hyn o bryd, mae’r rhain yn cael eu tanddefnyddio, sy’n arwain at golli cyfleoedd i gefnogi rhai o’r bobl sydd fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau. 

Beth sydd angen ei wneud yn eich barn chi?

Ni ellir datrys y materion y tynnwyd sylw atynt yn fy adroddiad drwy blismona yn unig. Mae hyn angen ymagwedd amlasiantaeth. Mae angen i asiantaethau partner adolygu’r effaith y gallai cyfleusterau cymryd cyffuriau gael ar gymunedau Dyfed-Powys, a’r manteision posibl o ran lleihau’r niwed sy’n gysylltiedig â chyffuriau. 

Beth fyddwch chi’n bersonol yn ei wneud er mwyn mynd i’r afael â’r materion rydych chi wedi’u codi?

Yng ngoleuni’r adolygiad hwn, rydw i wedi cyflwyno cyfres o argymhellion i’r Prif Gwnstabl, ac rwy’n hyderus y bydd ef a’i dîm yn eu datblygu. Byddaf yn adolygu’r cynnydd hwn dros y misoedd i ddod, ac yn ceisio’ch diweddaru trwy fy nghyfarfodydd cyhoeddus a’m gwefan.

Beth yw’r cam nesaf ar gyfer eich swyddfa?

Rwyf wedi ymrwymo i barhau i graffu ar y meysydd rydych chi’n teimlo fwyaf angerddol amdanynt, a gofynnaf i chi ddweud wrth fy staff beth yw’r rhain. Rwy’n eich annog i gymryd rhan yn fy ymgynghoriadau a’m digwyddiadau ymgysylltu yn y dyfodol. Cewch fanylion rhain ar fy ngwefan, neu drwy gysylltu â’m swyddfa. Diolch.