Diweddariad arfaethedig i’r datganiad sefydliadol, 2026:
Ry’n ni’n gweithredu Fframwaith Cymru sy'n Ystyriol o Drawma yn SCHTh. Yr ydym yn cydnabod y gall unrhyw un gael ei effeithio gan drawma ac y gall trawma edrych yn wahanol i bawb.
Er mwyn bodloni’r ymrwymiad hwn, ry’n ni’n anelu i hyrwyddo amgylchedd diogel, grymusol a pharchus i staff ac unrhyw un ry’n ni’n rhyngweithio â nhw. Ry’n ni wedi ymrwymo i arwain â charedigrwydd, tosturi a chynhwysiant yn holl feysydd ein gwaith.
Ry’n ni’n gwneud y gwasanaethau ry’n ni’n cynnig yn fwy hygyrch drwy adolygu ac addasu prosesau ac arferion a all wneud y gwasanaeth yn ddiangen o anodd i bobl sydd wedi profi trawma.
Ry’n ni dal yn dysgu a gwrando, felly os oes gennych unrhyw awgrymiadau o ran sut y gallwn barhau i esblygu i ddod yn fwy ystyriol o drawma, mae croeso ichi gysylltu â ni.
Os oes angen cymorth arnoch, ystyriwch estyn allan i’r sefydliadau a restrir yn y ddolen isod, a fydd yn medru cynnig cymorth penodol ac arbenigol. Gweler y rhestr fan hyn: Adnoddau Defnyddiol a Chyfeirio | Heddlu Dyfed-Powys