Uned Gyswllt yr Heddlu – Rheolwr Polisi APCC Cymru

Gradd: PO3 – Swydd llawn amser
Cyflog: £38,376 yn codi i £41,718
Lleoliad: Ystwyth/Hyblyg gyda'r ganolfan yn Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd
Hyd: Secondiad dwy flynedd ag estyniad posibl
Lefel fetio: CTC

Dyddiad cau: 4 Mawrth 2022

Mae cyfle cyffrous wedi codi i gefnogi gwaith y pedwar Comisiynydd Heddlu a Throseddu yng Nghymru wrth iddynt ymgysylltu â Chymdeithas Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu (APCC). Ariennir y swydd hon ar y cyd â'r APCC, gan gydnabod pwysigrwydd y rôl hon. Caiff y swydd ei lleoli yn Uned Gyswllt yr Heddlu a bydd deiliad y swydd yn atebol i Bennaeth yr Uned â chyswllt ffurfiol i Gyfarwyddwr Strategaeth yr APCC.

Mae Uned Gyswllt yr Heddlu yn gweithio ar ran Plismona yng Nghymru, gan gynrychioli Prif Gwnstabliaid a Chomisiynwyr wrth iddynt ryngweithio â holl adrannau Llywodraeth Cymru. Bydd y swydd newydd hon yn cynnig cymorth uniongyrchol i Gomisiynwyr drwy sicrhau bod yr APCC a phartneriaid eraill yn deall cyd-destun unigryw Cymru a'r gydberthynas rhwng partneriaid datganoledig ac annatganoledig yn llawn.

Mae'r Fanyleb Person yn rhoi dealltwriaeth well o ofynion y rôl, ond mae'r swydd hon yn gofyn am rywun sydd â phrofiad o ddatblygu a rheoli polisïau ac sy'n gwbl ymwybodol o'r tirlun gwleidyddol y mae plismona yn gweithredu o'i fewn. Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus ymgysylltu'n rheolaidd â'r Comisiynwyr, eu dirprwyon a'u timau gweithredol er mwyn hwyluso eu gwaith ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol. Bydd angen iddo hefyd ymgysylltu'n fanwl ac yn barhaus ag amrywiaeth o bartneriaid a rhanddeiliaid o bob rhan o'r sector cyfiawnder troseddol a thu hwnt.

Mae'r rôl yn ddynamig ac yn amrywiol, ac efallai y bydd adegau pan fydd angen i chi fynd i gyfarfodydd ledled Cymru. O ystyried natur y gwaith a wneir, mae'r swydd yn gofyn am y safonau uchaf o ran cyfrinachedd ac ymddygiad proffesiynol.

Gellir bodloni gofynion y rôl hon drwy drefniadau gweithio ystwyth/hyblyg er bod gan Uned Gyswllt yr Heddlu swyddfa yn adeiladau Llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd. Bydd yn ofynnol i chi deithio i swyddfeydd yr APCC yn Llundain o bryd i'w gilydd er mwyn cynnal busnes yn ôl y gofyn.

Er mwyn gwneud cais, anfonwch gopi o'ch CV drwy e-bost ynghyd â mynegiant o ddiddordeb, yn amlinellu pam rydych chi'n gwneud cais am y rôl a pha brofiad a rhinweddau fyddech chi'n eu cyfrannu ati (Dim mwy na 2 ochr A4, maint ffont 10) i:

CommissionerVacancy@south-wales.police.uk

I gael rhagor o wybodaeth am unrhyw agwedd ar y rôl, cysylltwch â Paul Morris, Pennaeth Uned Gyswllt yr Heddlu, drwy e-bostio:

paul.morris2@south-wales.police.uk