Cwestiynau Cyffredinol a ofynir ar gyfer Elecsiwn CHTh 2024
A yw swydd CHTh yn swydd llawn amser?
Ydi - er mai mater i bob Comisiynydd unigol yw hynny.
Oes yna Ddirprwy Gomisiynydd?
Mae'r penderfyniad ar gyflogi DCHTh yn un a wnaed gan y CHTh.
Pryd yw'r dyddiad cau ar gyfer enwebiadau etholiad?
Ymgynghorwch â'r Swyddog Canlyniadau - Eifion Evans, Cyngor Sir Ceredigion.
Beth yw manylion y digwyddiad briffio ymgeiswyr?
Mae'r agenda wedi ei gyhoeddi ar wefan Gyngor Sir Ceredigion.
A oes digwyddiadau tebyg eraill wedi'u cynllunio?
Bydd cyfle pellach yn cael ei ddarparu i ymgeiswyr datganedig i gwrdd â'r Prif Gwnstabl a Phrif Weithredwr SCHTh yn bersonol.
A fyddai'n bosibl dod â chydweithiwr sy'n helpu gyda fy ymgyrch?
Gall pob darpar ymgeisydd sy'n mynychu'r digwyddiad briffio fod yng nghwmni dim mwy nag un cydweithiwr neu reolwr ymgyrch.