Bydd CHTh yn gweithio gyda chefnogaeth tîm o weithwyr proffesiynol sydd â chyfrifoldebau penodol i gyd. Maent yn cynghori mewn meysydd fel cyllid, polisi, perfformiad ac ystadegau, ymgysylltu â'r cyhoedd, cydweithio a phartneriaethau, ac yn cefnogi Comisiynydd i gyflawni cyfrifoldebau. Mae'r unigolion hyn mewn swyddi sydd â chyfyngiadau gwleidyddol. 

Rôl Prif Weithredwr a Swyddog Monitro

Mae hon yn rôl statudol sy’n ofynnol yn ôl Deddf Diwygio’r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011.

Mae’r Prif Weithredwr yn gyfrifol am rediad effeithiol ac effeithlon Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, ac fel Swyddog Monitro, mae’n rhoi cyngor ar faterion strategol er mwyn cefnogi cydymffurfiaeth â deddfwriaeth a safonau priodol.

Rôl Prif Swyddog Cyllid

Mae rôl y Prif Swyddog Cyllid yn rôl statudol sy’n ofynnol gan Ddeddf Diwygio’r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011. Fel disgrifiwyd mewn deddfwriaeth, dyletswydd y Prif Swyddog Cyllid yw sicrhau bod materion ariannol y Comisiynydd yn cael ei weinyddu'n gywir, gan ystyried cywirdeb, cyfreithlondeb a safonau addas.

Cynllun Heddlu a Throseddu

Un o brif ddyletswyddau Comisiynydd Heddlu a Throseddu yw cynhyrchu Cynllun Heddlu a Throseddu sy’n nodi’r cyfeiriad ar gyfer plismona am y pedair blynedd nesaf.

Cynlluniau Gwirfoddol

Mae gwirfoddolwyr yn gweithio gyda SCHTh drwy gynorthwyo'r CHTh i sicrhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn gweithredu’n broffesiynol, yn gyfreithlon ac yn foesegol drwy adolygu gwasanaethau a ddarperir gan yr Heddlu.

 

I gael rhagor o wybodaeth am strategaethau a pholisïau y SCHTh, cliciwch yma.