Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu (CHTh) yn swyddog etholedig sy'n gyfrifol am sicrhau ardal blismona effeithiol ac effeithlon, ac am sicrhau bod yr heddlu lleol yn diwallu anghenion y gymuned.

Mae CHTh yn gyfrifol am:

  1. Osod y blaenoriaethau ar gyfer Heddlu Dyfed-Powys;
  2. Cyhoeddi’r Cynllun Heddlu a Throseddu;
  3. Ymgysylltu â chymunedau a chynrychioli llais y cyhoedd ar faterion plismona;
  4. Gweithio’n agos â phartneriaid diogelwch cymunedol a chyfiawnder troseddol;
  5. Cefnogi dioddefwyr a dwyn pobl i gyfiawnder
  6. Comisiynu gwasanaethau i wneud cymunedau’n fwy diogel a chefnogi’r rhai sy’n agored i niwed;
  7. Penodi’r Prif Gwnstabl, a’i ddiswyddo os oes angen;
  8. Ymdrin â chwynion a materion disgyblu yn erbyn y Prif Gwnstabl
  9. Dal y Prif Gwnstabl i gyfrif; a
  10. Gosod cyllideb flynyddol yr heddlu a’r lefel praesept;

 

Nid yw CHTh yn gyfrifol am:

  1. Leoli a chyflwyno gwasanaethau heddlu o ddydd i ddydd, sef “plismona gweithredol”; neu
  2. Ymchwilio i gwynion yn erbyn swyddogion heddlu islaw rheng y Prif Gwnstabl.
 

Y cyflog blynyddol presennol ar gyfer CHTh Dyfed Powys yw £68,202 ac mae'n ymodol ar adolygiad cyfnodol.

Mae rhagor o wybodaeth am rôl a chyfrifoldebau Comisiynydd Heddlu a Throseddu ar gael ar wefan y Swyddfa Gartref a wefan yr APCC