Rydym wedi cynhyrchu dogfen Briff Etholiad ar gyfer Ymesiwyr CHTh sy'n darparu gwybodaeth gyffredinol ynglyn a'r etholiad, y Swyddfa, a Heddlu Dyfed-Powys.
Mae canllaw etholiadol ar gyfer ymgeiswyr CHTh a'u hasiantau, sy'n cynnwys gwybodaeth am gymwysterau ar gyfer sefyll fel ymgeisydd, ar gael o wefan y Comisiwn Etholiadol yma. Darllenwch ei canllaw, sy'n darparu cyngor ymarferol i unrhyw un sydd am sefyll fel ymgeisydd neu fod yn asiant mewn etholiad CHTh.
Mae'r Gymdeithas Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd hefyd wedi cyhoeddi rhywfaint o ganllawiau yma ar gyfer ymgeiswyr ynghylch y Cynllun Ymweld â Dalfeydd Annibynnol.
Mae Cymdeithas Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu (APCC) wedi creu canllaw ar Etholiadau CHTh, a gellir dod o hyd iddo yma. Mae'r APCC hefyd yn rhoi cipolwg ar sut y gall y cyhoedd ddweud eu dweud ynglŷn â phwy yw eu CHTh yn y fideo byr isod.
Digwyddiadau Briffio i Ymgeiswyr
Noder os gwelwch yn dda fod sesiynau Briffio i Ymgeiswyr yn cymryd lle ar y dyddiadau isod. Dylai Ymgeiswyr sydd yn dymuno mynychu anfon ebost atom i'r cyfeiriad PCCElections2024@dyfed-powys.police.uk er mwyn derbyn rhagor o fanylion.
Dydd Llun, 8 Ebrill 2024 am 5.30pm |
Sesiwn Briffio i Ymgeiswyr ac Asiantiaid gyda'r Swyddog PARO |
Dydd Mawrth, 9 Ebrill 2024 am 9yb |
Sesiwn Briffio i Ymgeiswyr ac Asiantiaid gyda Uwch Swyddogion HDP |
Cynhaliwyd digwyddiad briffio ym Mhencadlys Heddlu Dyfed-Powys ar 9fed o Ebrill 2024. Gwahoddwyd holl ymgeiswyr am y rôl Comisiynydd Heddlu a Throseddu (CHTh) i’r digwyddiad i ddysgu mwy am y rôl a’u cyfrifoldebau, a’r cyfle i gwrdd â Grŵp Prif Swyddogion Heddlu Dyfed-Powys, y tîm Gweithredol Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, ac arweinwyr strategol ar gyfer yr Uned Gyswllt yr Heddlu. Mae nodiadau a chyflwyniadau o’r diwrnod ar gael ar y tudalen hyn
Protocol Ar y Cyd
Rydym wedi cyhoeddi dogfen Protocol ar y cyd i roi arweiniad i swyddogion a staff o fewn Heddlu Dyfed-Powys a SCHTh. I weld y protocol, cliciwch yma.
Diogelwch Ymgeiswyr
Yn ystod cyfnod etholiad, mae ymgeiswyr yn agored i amlygiad uwch gan y cyhoedd, a gall hyn ddod â nifer o bwysau arnynt eu hunain a'r rhai sy'n agos atynt.
Mae HMG wedi cyhoeddi fideo ar y cyd ynghylch diogelwch ymgeiswyr ar gyfer etholiadau'r Comisiynwyr Heddlu a Throseddu, sydd ar gael i'w weld isod. Mae’n amlygu lle gall ymgeiswyr gael mynediad at gyngor a chanllawiau diogelwch perthnasol a allai fod o gymorth yn ystod cyfnod etholiad a thu hwnt, ac mae’n hyrwyddo tair neges ddiogelwch allweddol, “byddwch yn effro, cynlluniwch ymlaen llaw, a gwybod beth i’w wneud”.