02 Meh 2023

Gydag wythnos genedlaethol wirfoddoli yn dechrau ar 1 Mehefin 2023, mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dafydd Llywelyn yn annog trigolion o Bowys, Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Cheredigion i gymryd rhan mewn agweddau o’i waith craffu fel Comisiynydd.

Mae grwpiau gwirfoddolwyr yn gweithio gyda Chomisiynwyr ar nifer o gynlluniau i helpu i gefnogi pobl sy’n agored i niwed; sicrhau proffesiynoldeb o fewn heddluoedd; rhoi hyder bod safonau uchel yn cael eu cynnal; amddiffyn hawliau pobl; a herio penderfyniadau os nad yw pethau fel a ddisgwylir.

Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Dafydd Llywelyn; “Mae fy ngwirfoddolwyr yn chwarae rhan bwysig wrth fy helpu i gyflawni fy ngweledigaeth a nodir yn y cynllun Heddlu a Throseddu ac rwy’n ddiolchgar iawn i bob un person sy’n gwirfoddoli gyda mi i gyflawni’r cynlluniau hanfodol hyn.

“Rwyf am sicrhau bod fy nghynlluniau gwirfoddoli yn cynrychioli ein cymunedau lleol, ac sy’n gallu darparu safbwyntiau amrywiol wrth graffu ar wasanaethau’r heddlu yma yn Nyfed Powys, ac rwy’n annog unrhyw un a allai fod â diddordeb yn unrhyw un o’n cynlluniau gwirfoddoli i gysylltu â fy Swyddfa am ragor o wybodaeth.”

 Ar hyn o bryd mae Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys yn cynnal pedwar cynllun gwirfoddoli, sy’n cynnwys;

  • Ymweliadau Annibynnol â'r Ddalfa
  • Ymwelwyr Lles Anifeiliaid
  • Panel Sicrhau Ansawdd
  • Fforwm Ieuenctid

 

Mae Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd (ICVs) yn wirfoddolwyr o’r gymuned leol sy’n ymweld â dalfeydd yr heddlu mewn parau, yn ddirybudd, i wirio lles carcharorion ac i sicrhau bod eu hawliau’n cael eu cynnal.

Gyda'r Cynllun Lles Anifeiliaid, mae gwirfoddolwyr yn aelodau o'r gymuned leol gyda phrofiad o gwn gweithio a gweithwyr proffesiynol o sefydliadau lles anifeiliaid. Mae gwirfoddolwyr yn y Cynllun Lles Anifeiliaid yn arsylwi, yn rhoi sylwadau ac yn adrodd ar les a chyflwr cŵn yr heddlu, sut y mae nhw’n cael eu cadw, eu hyfforddi, eu cludo a’u lleoli.

Sefydlwyd y Panel Sicrhau Ansawdd ym mis Rhagfyr 2016 i adolygu ansawdd cyswllt yr heddlu â’r cyhoedd, mewn modd tryloyw ac annibynnol, ar ran cymunedau lleol.

Gwahoddir y Panel yn gynyddol gan yr Heddlu i adolygu meysydd cyswllt ychwanegol â'r heddlu, sy'n dyst i werth eu hadborth wrth gefnogi gwelliannau i wasanaethau sy'n canolbwyntio ar y cwsmer. Mae'r gwaith hwn yn hanfodol i sicrhau'r safonau uchaf yn Nyfed-Powys.

Mae gan y Comisiynydd Heddlu a Throsedd Fforwm Ieuenctid y mae’n cyfarfod a nhw yn rheolaidd i gael eu barn ar faterion plismona, ac i sicrhau bod lleisiau pobl ifanc yn cael eu clywed. Yn ystod y misoedd diwethaf, mae'r Fforwm Ieuenctid wedi bod yn gweithio gyda'r CHTh ar Ymgynghoriad Y Sgwrs, yn cynnal grwpiau ffocws ac yn hyrwyddo arolwg ar-lein i bobl ifanc er mwyn cael eu barn a'u profiadau o faterion iechyd meddwl, camddefnyddio sylweddau a throseddau ieuenctid.

Dywedodd Mr Llywelyn; “Ochr yn ochr â’r unigolion sy’n gwirfoddoli i fy helpu yn fy rôl, mae gwirfoddolwyr hefyd yn chwarae rhan hanfodol yng ngwaith Heddlu Dyfed-Powys, gan gynnwys cadetiaid, cwnstabliaid gwirfoddol, caplaniaid, cymorth i ddioddefwyr a gwirfoddolwyr sy’n gwirfoddoli mewn ystod eang o rolau er mwyn cefnogi gwaith staff a Swyddogion yr Heddlu.

“Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i’n holl wirfoddolwyr yn fy swyddfa a’r heddlu. Rydym yn gwerthfawrogi’n fawr yr holl amser a’r ymrwymiad a roddwch i waith yr heddlu a fy swyddfa i.”

Gofynnir i unrhyw un sydd â diddordeb yn unrhyw un o Gynlluniau Gwirfoddoli’r CHTh gysylltu â’r swyddfa am ragor o wybodaeth ar 01267 226440 neu drwy e-bost: opcc@dyfed-powys.police.uk.

 

DIWEDD

Gwybodaeth bellach:

Pennaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu

Gruffudd.ifan@dyfed-powys.police.uk