15 Meh 2023

Lansiwyd arolwg rhanbarthol gan bartneriaid y sector cyhoeddus i geisio barn gan drigolion ar draws Sir Gâr, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys. Fel rhan o’r arolwg rydym yn galw ar bobl i leisio barn ar y profiadau maent yn eu cael – a phrofiadau pobl eraill –wrth ddefnyddio amrywiaeth o wasanaethau cyhoeddus, o iechyd i dai.

Mae awdurdodau lleol yn y pedwar rhanbarth wedi cydweithio i lunio’r arolwg hwn. Hefyd mae’r sefydliadau canlynol wedi cyfrannu: Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Heddlu Dyfed-Powys, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, a Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys. Bydd y sylwadau yn dylanwadu ar waith ar gydraddoldeb a sut mae pobl gyda nodweddion gwarchodedig yn cael eu heffeithio a’u trin wrth geisio defnyddio gwasanaethau a ddarperir gan y sector.

Mae’r arolwg yn canolbwyntio ar brif feysydd megis addysg, tai, iechyd, troseddu, hamdden a mynediad at yr arfordir a chefn gwlad. Mae’n gofyn i bobl sgorio eu profiadau o’r gwasanaethau hyn a’u barn am y profiad mae pobl eraill yn ein cymdeithas yn ei gael.

Rhaid i bob corff cyhoeddus lunio Cynllun Cydraddoldeb Strategol sy’n nodi sut y byddant yn gweithio i sicrhau bod gwasanaethau’n cael eu darparu. Hefyd rhaid iddynt gynnig gwasanaethau fel eu bod yn hwylus i bob un o drigolion y sir a defnyddwyr gwasanaeth. Dylai gwasanaethau fod yn hawdd i bobl eu defnyddio, beth bynnag yw eu hoedran, eu rhyw, eu rhywioldeb, eu crefydd, eu dewis iaith neu unrhyw anableddau sydd ganddynt.

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn rhestru naw o nodweddion gwarchodedig. Yn ddiweddar, cyhoeddodd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol adroddiad o’r enw ‘A yw Cymru’n Decach?’ (2018). Mae hwn yn nodi cyflwr y genedl wrth edrych ar  grwpiau mwy bregus ein cymdeithas. Mae’r arolwg yn canolbwyntio ar y meysydd allweddol a restrir yn yr adroddiad.

Mae gan bob corff sector cyhoeddus ddyletswydd i wneud y canlynol:

  • Dileu gwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth
  • Hybu cyfle cyfartal rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd a warchodir perthnasol, a’r rheiny nad ydynt
  • Meithrin perthnasau da rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd a warchodir a’r rheiny nad ydynt

Ochr yn ochr â’r arolwg hwn bydd pob rhanbarth yn arwain ar ymgysylltu â grwpiau cymunedol penodol sy’n cynrychioli ac eirioli dros rhai o’r grwpiau na chlywir amdanynt gymaint. Mae’r rhain yn cynnwys grwpiau megis pobl Hoyw, Ddeurywiol a Thrawsrywiol, neu ffoaduriaid wedi’u hadsefydlu.

 

Diwedd

Gallwch weld copi o adroddiad ‘A yw Cymru’n Decach?’  trwy fynd i: https://www.equalityhumanrights.com a dewis lawrlwytho’r fersiwn Gymraeg. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â desg y wasg/tîm y cyfryngau o unrhyw un o’r asiantaethau partner sy’n rhan o’r arolwg.

 

Rhagor o fanylion:

Gruff Ifan

Pennaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu

gruffudd.ifan@dyfed-powys.police.uk

 

Teleri Williams

Rheolwr Cydraddoldeb, Amrywiaeth a'r Iaith Gymraeg

teleri.williams@dyfed-powys.police.uk