04 Hyd 2023

Y mis hwn bydd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dafydd Llywelyn yn cynnal gweminar ar Droseddau Casineb Ar-lein fel rhan o wythnos Ymwybyddiaeth Troseddau Casineb.

Bydd Gweminar Addysgol ar Droseddau Casineb Ar-lein, yn ymchwilio i'r heriau cymhleth y mae heddluoedd yng Nghymru a Lloegr yn dod ar eu traws wrth ymchwilio i adroddiadau troseddau casineb ar-lein.

Mae cyfrifoldebau’r heddlu wrth ymateb i gasineb ar-lein yr un fath â’r rhai ar gyfer unrhyw fath arall o drosedd casineb neu ddigwyddiad casineb nad yw’n drosedd.

Fodd bynnag, fel yr amlygwyd gan y Coleg Plismona, mae casineb ar-lein yn cyflwyno heriau gweithredol, gan gynnwys:

  • sefydlu awdurdodaeth y drosedd, er enghraifft, y wlad a'r ardal heddlu lle postiodd y troseddwr y deunydd
  • natur ddienw y rhan fwyaf o ddeunydd sarhaus
  • amharodrwydd, neu gyfyngiadau cyfreithiol, ar gyrff diwydiant ar-lein i ddatgelu pwy yw'r defnyddiwr
  • swm y deunydd ar-lein, ac ar ddyfeisiadau digidol a phenderfynu ar ymateb cymesur i hyn.

Mae’r panel o siaradwyr arbenigol yn y weminar yn cynnwys cynrychiolwyr o Heddlu Dyfed-Powys, Canolfan Cymorth Casineb Cymru gyda Victim Support, sy’n darparu cymorth i ddioddefwyr Troseddau Casineb ledled Cymru, Swyddogion Cydlyniant Cymunedol lleol ymroddedig, ac Arweinydd y Prosiect Cyswllt Ysgolion Cenedlaethol, a fydd yn darparu mewnwelediadau ac atebion gwerthfawr i fynd i'r afael â'r pryderon cynyddol ynghylch Troseddau Casineb.

Nod y gweminar yw rhoi trosolwg o’r dirwedd bresennol o droseddau casineb ar-lein yng Nghymru a Lloegr, a’r heriau sy’n wynebu’r Heddlu wrth ymchwilio i adroddiadau troseddau casineb ar-lein.

Bydd cyfle hefyd i ddysgu am y rôl hollbwysig y mae Victim Support yn ei chwarae wrth helpu’r rhai y mae troseddau casineb ar-lein yn effeithio arnynt, ac i ddarganfod rôl Swyddogion Cydlyniant Cymunedol lleol wrth feithrin undod a gwytnwch mewn cymunedau y mae troseddau casineb yn effeithio arnynt, ac i ddysgu am y gefnogaeth y mae Timau Ysgolion yn ei gynnig i ysgolion wrth addysgu pobl ifanc am effeithiau Casineb Ar-lein.

Dywedodd CHTh Dafydd Llywelyn:

“Mae profi trosedd casineb yn gallu bod yn brofiad arbennig o frawychus gan eich bod wedi cael eich targedu oherwydd pwy ydych chi, neu pwy neu beth mae eich ymosodwr yn meddwl ydych chi. Yn wahanol i droseddau nad ydynt yn ymwneud â hunaniaeth, mae’r ymosodiad yn bersonol iawn ac wedi’i dargedu’n benodol, sy’n golygu ei fod yn llai tebygol o fod yn ymosodiad ar hap.

“Bydd y weminar hon yn gyfle i ni drafod yr heriau cymhleth y mae heddluoedd Cymru a Lloegr yn dod ar eu traws wrth ymchwilio i adroddiadau troseddau casineb ar-lein.

“Rwy’n hynod ddiolchgar i’r siaradwyr gwadd am gytuno i gymryd rhan yn y trafodaethau, ac edrychaf ymlaen at eu cyflwyno.

“Os ydych yn gweithio o fewn y System Cyfiawnder Troseddol,y sector addysg ac ieuenctid, neu eiriolwr cymorth i ddioddefwyr, byddwn yn eich annog gofrestru er mwyn ymuno â’r sgwrs.”

Cynhelir y gweminar ddydd Mercher 18 Hydref 2023, rhwng 12:30 a 14:00.

Gellir cofrestru trwy Eventbrite wrth sganio’r cod QR isod neu trwy glicio yma.

ENDS

Further information:

OPCC.Communication@dyfed-powys.police.ukIME REPORTS