25 Medi 2023

Mae’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dafydd Llywelyn heddiw wedi cyhoeddi adroddiad ar adolygiad craffu dwys y mae ei Swyddfa wedi’i gynnal sy’n craffu ar sut mae Heddlu Dyfed-Powys yn rheoli’r rhai sy’n cyflawni stelcian ac aflonyddu. Mae’r adroddiad yn cynnwys nifer o argymhellion allweddol I’r Heddlu eu hystyried wrth iddynt anelu at wella eu hymateb i blismona stelcio ac aflonyddu.

Nododd y Comisiynydd Dafydd Llywelyn fod stelcian ac aflonyddu yn faes pwysig ar gyfer gweithgarwch craffu, gan gyfrannu at y blaenoriaethau plismona a nodir yn ei Gynllun Heddlu a Throseddu.

Mae stelcian ac aflonyddu yn cynnwys patrwm o ymddygiad digroeso a direswm gan rywun tuag at berson arall. Gall patrwm ymddygiad (dau ddigwyddiad neu fwy) achosi i’r dioddefwr deimlo’n aflonydd, yn ofnus, yn ofidus neu’n ofnus y gallai trais gael ei ddefnyddio yn ei erbyn/herbyn.

Mae data gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a gyhoeddwyd ar 26 Ionawr 2023 yn dangos bod troseddau stelcian ac aflonyddu ar draws Cymru a Lloegr wedi codi 14.09% ar gyfer y 12 mis hyd at fis Mawrth 2022, o gymharu â’r un cyfnod y flwyddyn flaenorol.

Rhwng Ebrill 2021 a Mawrth 2022, cofnodwyd 10,199 o achosion o stelcian ac aflonyddu ar draws ardal Heddlu Dyfed-Powys, sy’n gynnydd o 51.05% ar gyfer y 12 mis hyd at fis Mawrth 2022 o gymharu â’r un cyfnod y flwyddyn flaenorol.

Ystyrir bod y cynnydd hwn oherwydd newidiadau i arferion cofnodi’r Swyddfa Gartref, yn ogystal â’r ffaith bod y Prif Gwnstabl wedi gosod blaenoriaeth i ddileu cam-drin domestig, stelcian ac aflonyddu ym mis Ebrill 2022, gan arwain at ffocws targedig ar gyfer y troseddau hyn.

Blaenoriaethau Cynllun Heddlu a Throseddu CHTh Dafydd Llywelyn yw bod dioddefwyr yn cael eu cefnogi; niwed yn cael ei atal; a, bod y system cyfiawnder troseddol yn dod yn fwy effeithiol. Nod yr adolygiad Craffu Dwys oedd ceisio deall a yw’r prosesau a fabwysiadwyd gan Heddlu Dyfed-Powys er mwyn rheoli unigolion sy’n cyflawni achosion o stelcian ac aflonyddu, yn cefnogi ac yn diogelu dioddefwyr ac yn atal troseddu yn y dyfodol, gan ymateb yn uniongyrchol i’r tair blaenoriaeth.

Roedd yr adolygiad yn canolbwyntio ar ddefnydd Heddlu Dyfed-Powys o ymyriadau wedi’u targedu a gorchmynion ataliol i ddiogelu dioddefwyr a lleihau aildroseddu, ac roedd yn cynnwys ymchwil manwl, hapsamplu achosion o stelcian ac aflonyddu, ac yn hollbwysig, ymgysylltu â dioddefwyr.

Dywedodd y Comisiynydd Dafydd Llywelyn; “Mae’r adolygiad hwn wedi rhoi sicrwydd i mi bod dioddefwyr yn cael eu diogelu gan yr heddlu yma yn Nyfed-Powys.

“Fodd bynnag, dywedodd dioddefwyr nad oeddent yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi’n llawn gan yr heddlu. Dyna pam yr ydym wedi argymell bod swyddogion ymchwilio yn adolygu Cytundebau Cyswllt Dioddefwyr ar wahanol adegau yn ystod ymchwiliadau, i sicrhau bod cyswllt â’r heddlu yn cyfateb i ddisgwyliadau ac anghenion y dioddefwr.

“Wrth atal troseddu yn y dyfodol, daeth fy nhîm o hyd i bocedi o arfer da lle roedd prosesau rheoli troseddwyr yn cael eu cymhwyso’n gadarn, ond mae angen i’r Heddlu wneud mwy i atal pawb sy’n cyflawni stelcian ac aflonyddu yn gyson.

“O ran defnydd effeithiol o’n system cyfiawnder troseddol, roedd enghreifftiau o ystyriaeth gynyddol, a defnydd o orchmynion sifil ac erlyniadau. Ond mae tystiolaeth o ddatgysylltiad rhwng dealltwriaeth y dioddefwr, yr heddlu a’r llysoedd o’r ymateb sydd ei angen i dorri gorchmynion ac aildroseddu.”

Mae CHTh Llywelyn wedi rhoi cyfres o argymhellion i Heddlu Dyfed-Powys mewn ymateb i’r adolygiad. Mae'r argymhellion allweddol yn cynnwys;

Adnoddau – blaenoriaethu cyllid a recriwtio ar gyfer rolau hanfodol, a mynd ati’n rhagweithiol i geisio cyngor a chymorth arbenigol.

Hyfforddiant – i adolygu rhaglen hyfforddi Hyrwyddwyr Stelcio, ac i ystyried dysgu o Operation Soteria Bluestone.

Data – i ehangu Dangosfyrddau Perfformiad i graffu’n agosach ar orchmynion sifil, ac i sicrhau bod swyddogion yn gallu cael gafael yn hawdd ar gofnod cyflawn o hanes troseddwr o dorri amodau.

Hyfforddiant – i adolygu rhaglen hyfforddi Hyrwyddwyr Stelcio, ac i ystyried dysgu o Operation Soteria Bluestone.

Ymyriadau Cyflawnwyr – gwreiddio’r Dull Blaenoriaethu Cyflawnwyr ar draws yr Heddlu, ac ystyried y defnydd o amrywiaeth o ymyriadau, gan gynnwys gorchmynion sifil, fel rhan o strategaethau rheoli cyflawnwyr.

Monitro Cyflawnwyr – ystyried gweithredu prosesau i reoli gorchmynion sifil, gan gynnwys mwy o weithgarwch dilynol a monitro, ac ymgorffori llais y dioddefwr mewn adolygiadau trefn sifil.

Dioddefwyr – ailedrych ar Gytundebau Cyswllt Dioddefwyr ar wahanol gamau o’r ymchwiliad, a sicrhau bod dioddefwyr yn cael eu hysbysu’n gyson yn unol â’r Cytundeb.

Yn ei ymateb i'r adolygiad, dywedodd y Prif Gwnstabl Dr. Richard Lewis;

“Hoffai Heddlu Dyfed-Powys ddiolch i’r Comisiynydd a’i swyddfa am gynnal adolygiad thematig o stelcian ac aflonyddu. Mae'r Heddlu yn cydnabod cynnwys yr adroddiad, yn enwedig yr adborth gan ddioddefwyr.

“Mae’n braf gweld yr adroddiad yn cydnabod y gwaith sydd ar y gweill, ac wrth symud ymlaen bydd yr argymhellion yn cael eu hintegreiddio â chynlluniau ein heddluoedd, wrth i ni ymdrechu i wella ein hymateb.”

Yn ystod yr adolygiad hwn, gofynnodd swyddfa’r Comisiynydd am arweiniad a barn gan arbenigwyr yn y maes stelcian ac aflonyddu, gan gynnwys yr Athro Jane Monckton-Smith; Athro Diogelu'r Cyhoedd ym Mhrifysgol Swydd Gaerloyw lle mae ei gwaith yn canolbwyntio ar stelcio ac atal lladdiad. Mae’r Athro wedi darparu hyfforddiant i Heddlu Dyfed-Powys mewn perthynas â deall ac asesu’r risg a achosir gan droseddwyr sy’n stelcian.

Ar ôl derbyn canfyddiadau’r adolygiad hwn, dywedodd yr Athro Monckton-Smith; “Mae heddlu Dyfed-Powys wedi bod yn rhagweithiol iawn wrth fynd i’r afael â’u hymateb i stelcio ac wedi cofleidio ffyrdd newydd o ymateb i’r dioddefwyr a’r troseddwyr.

“Mae wedi bod yn brofiad gwych gweithio gyda nhw a gweld eu diddordeb gwirioneddol mewn mynd i’r afael â’r hyn sy’n fater cenedlaethol. Gall hyn ond bod o fudd i ddioddefwyr, a gall fod yn fodel ar gyfer ymateb i’r materion ledled y DU.”

Ychwanegodd y Comisiynydd Dafydd Llywelyn; “Rwy’n hyderus bod Heddlu Dyfed-Powys eisoes wedi cymryd camau tuag at welliant, ac rwy’n obeithiol, drwy ystyried fy argymhellion, y bydd rheolaeth yr Heddlu o stelcian ac aflonyddu yn parhau i wella.

“Byddaf yn parhau i graffu ar yr Heddlu yn y maes hwn, i sicrhau bod y gwelliannau hyn yn cael eu cyflwyno, gan ofyn am ddiweddariadau rheolaidd gan y Prif Gwnstabl. Yn hollbwysig, byddaf hefyd yn parhau i ymgysylltu â dioddefwyr ac unigolion allweddol yn y maes hwn, i ddeall a ydynt yn gweld ac yn teimlo’r gwahaniaeth yn ymdrechion yr Heddlu.”

I ddarganfod mwy am yr adolygiad hwn, ewch i dudalenau Craffu ein gwefan.

 

DIWEDD

Gwybodaeth bellach:

OPCC.Communication@dyfed-powys.police.uk