14 Meh 2023

HEDDIW, 14 Mehefin 2023, ymwelodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu (CHTh) Dafydd Llywelyn â sawl ardal yn Sir Benfro i gwrdd â sefydliadau gwirfoddol, trydydd sector ac elusennau i weld rhywfaint o’r gwaith cadarnhaol sy’n cael ei wneud gyda phobl ifanc yn Sir Benfro.

Fel rhan o’i ddiwrnod ymgysylltu cymunedol, ymwelodd CHTh Llywelyn â’r Hive yn Hwlffordd, sef prosiect ieuenctid a chymunedol sy’n cefnogi pobl ifanc Ward Garth a’r ardal leol. Mae The Hive yn cynnig amgylchedd diogel i bobl ifanc gyfarfod, chwarae, dysgu ac addysgu eu hunain, gan eu helpu i dyfu a datblygu i fod yn oedolion sy'n aelodau cadarnhaol o gymdeithas, gan wella eu cyfleoedd bywyd i’r dyfodol.

Mae’r prosiect wedi derbyn cyllid gan CHTh Llywelyn yn ddiweddar i greu ‘cae Cruyff’, sef man chwarae bach diogel y tu allan i’r Ganolfan, er mwyn i blant a phobl ifanc allu cymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon.

Teithiodd y CHTh hefyd i gwrdd â staff sy'n darparu rhaglen ymyrraeth bocsio lwyddiannus i bobl ifanc yn Noc Penfro. Mae BOXWISE yn fenter gymdeithasol genedlaethol sy’n helpu pobl ifanc i fagu hyder, gwella eu hiechyd a’u lles a gwneud y mwyaf o’r holl gyfleoedd sydd ar gael iddynt, ac enillodd wobr ddiweddar yng Ngwobrau Heddlu Dyfed-Powys 2023. Yn dilyn llwyddiant y rhaglen ymyrraeth yn Noc Penfro, mae’r sesiynau bellach yn cael eu cynnig ar draws ardal yr Heddlu yn Llanelli, Aberhonddu, Treletert a Llandysul.

Tra yn Noc Penfro, mynychodd y CHTh lansiad arddangosfa graffiti i ddathlu byrddau celf graffiti a grëwyd gan bobl ifanc o bob rhan o Sir Benfro yn gynharach y gwanwyn hwn. Mae’r byrddau’n amlygu gwelliannau yr hoffai’r bobl ifanc eu gweld yn eu cymunedau lleol.

Trefnwyd y prosiect arddangos graffiti gan PLANED, a dderbyniodd arian o gronfa ACES (Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod) Llywodraeth Cymru a’i hyrwyddo’n lleol gan Gomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu. Nod y prosiect oedd helpu pobl ifanc yn Sir Benfro i gael ymdeimlad o reolaeth a theimlo’n fwy cysylltiedig â’u cymunedau trwy leisio’u barn, a thrwy hynny gynyddu eu gwytnwch a’u lles, ac i’w harfogi a sgiliau i wneud penderfyniadau gwell i fynd i’r afael ag ACES yn eu cymunedau.

Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Dafydd Llywelyn: “Fel Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu ar gyfer yr ardal hon, rwy’n llwyr gefnogi a chydnabod y rhan hanfodol y mae gwaith ieuenctid lleol a phrosiectau yn ei chwarae yn ein cymunedau. Heddiw, cefais y fraint o ymweld â rhai o’r prosiectau a’r mentrau hyn sydd nid yn unig yn darparu arweiniad a gofal hanfodol ond hefyd mentoriaeth, a chyfleoedd addysgol sy’n arfogi unigolion ifanc â’r sgiliau a’r gwytnwch sydd eu hangen i wneud dewisiadau cyfrifol a byw bywydau cynhyrchiol.

“Trwy ymgysylltu a chysylltu â phobl ifanc, gallwn feithrin perthnasoedd cadarnhaol, meithrin ymddiriedaeth, a’u llywio i ffwrdd o droseddu.

“Ar ben hynny, mae’r prosiectau hyn yn creu mannau diogel i bobl ifanc gymryd rhan mewn gweithgareddau adeiladol, i ffwrdd o ddylanwadau negyddol. Drwy sianelu eu hegni i mewn i chwaraeon, y celfyddydau, addysg, a chyfranogiad cymunedol, rydym yn eu grymuso i ddatblygu eu doniau a’u dyheadau, gan leihau’r risg y byddant yn ymwneud ag ymddygiad troseddol yn y pen draw.”

Yn y prynhawn, aeth y Comisiynydd Heddlu a Throseddu gyda SCCH lleol i gyfarfod gyda grŵp o oedolion ag anableddau dysgu yn Aberdaugleddau. Roedd y SCCH yn rhoi mewnbwn ymwybyddiaeth i'r grŵp am ‘cuckooing’ a throseddau cymar ac yna gweithdy graffiti lle cynhyrchwyd darn o waith celf a oedd yn adlewyrchu'r mewnbwn.

I gloi’r diwrnod cyfarfu’r CHTh ag Uwcharolygydd lleol Sir Benfro, Spt. Craig Templeton, i drafod materion plismona lleol wrth i ni baratoi ein hunain ar gyfer y tymor twristiaeth prysur a’r heriau plismona y mae Heddlu Dyfed-Powys yn eu hwynebu dros yr Haf.

Cyfarfu'r CHTh hefyd â Chynghorydd lleol yn Aberdaugleddau i drafod materion yn ymwneud ag adleoli Gorsaf yr Heddlu yn yr ardal leol.

Fis nesaf (Gorffennaf 2023), bydd y Comisiynydd Heddlu a Throsedd yn cynnal diwrnod ymgysylltu cymunedol yn Sir Gaerfyrddin, cyn y Gynhadledd Ieuenctid y mae’n ei chynnal gyda ei Fforwm Ymgysylltu Ieuenctid.

DIWEDD

Gwybodaeth bellach:

Gruffudd.ifan@dyfed-powys.police.uk

Gruff Ifan

Pennaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu

Gruffudd.ifan@dyfed-powys.police.uk