10 Hyd 2023

Mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys Dafydd Llywelyn heddiw wedi mynnu bod angen i’r Swyddfa Gartref fod yn atebol am eu diffyg cynllunio strategol o amgylch lletya ceiswyr lloches.

Mae darparwr llety’r Swyddfa Gartref, Clearsprings Ready Homes, wedi bod yn gweithio ar safle Gwesty Stradey Park yn Llanelli ers mis Ebrill 2023, ac roedd disgwyl i geiswyr lloches symud i’r safle yn ystod mis Gorffennaf.

Fodd bynnag, heddiw (10.10.2023), mae’r Swyddfa Gartref wedi ysgrifennu at Heddlu Dyfed-Powys a Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Dafydd Llywelyn i’w hysbysu, o ganlyniad i ‘nifer o heriau ymarferol a logistaidd’ – nad ydynt bellach yn bwrw ymlaen â chynlluniau i ddefnyddio’r Gwesty fel safle ar gyfer llety lloches.

Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Dafydd Llywelyn; “Er fy mod yn croesawu’r penderfyniad i atal y cynlluniau i ddefnyddio’r gwesty fel safle ar gyfer tai ceiswyr lloches, mae’n hollbwysig bod y Swyddfa Gartref nawr yn cael ei dal yn atebol am eu prosesau o wneud penderfyniadau a’u diffyg cynllunio strategol. Pwy wnaeth y penderfyniad yn y lle cyntaf, ble roedd yr achos busnes a’r diwydrwydd dyladwy o’i amgylch wrth sicrhau bod y penderfyniad yn ymarferol ac yn realistig?

“Mae tensiynau o amgylch y safle wedi bod yn cynyddu yn ystod yr wythnosau diwethaf, gan ei gwneud yn ofynnol i swyddogion rheng flaen a staff weithio’n barhaus mewn amgylchiadau heriol sydd ar brydiau wedi peryglu ein perthynas gadarnhaol â chymunedau.

“Mae’r sefyllfa wedi bod yn anghynaladwy ar adegau, ac mae’r costau sy’n gysylltiedig â phlismona’r safle hwn yn sylweddol ac wedi bod yn codi’n barhaus dros yr wythnosau diwethaf. Yn ogystal â hynny, costau a dynnwyd gan ddarparwyr gwasanaeth eraill megis y Gwasanaeth Tân a’r Awdurdod Lleol, ac yr un mor bwysig, faint y mae’r Swyddfa Gartref eu hunain wedi’i wario ar y safle dros y misoedd diwethaf? Mae angen gofyn cwestiynau, ac mae angen atebion ar ein trethdalwyr. Rhaid i’r Swyddfa Gartref roi esboniad clir am eu diffyg rhagwelediad a’r pwysau sylweddol y maent wedi’i roi ar ddarparwyr gwasanaethau lleol yn Sir Gaerfyrddin a thu hwnt.

“Dyma’r eildro mewn ychydig o flynyddoedd yn unig i gymunedau lleol a darparwyr gwasanaethau yn Nyfed-Powys gael eu rhoi dan bwysau diangen oherwydd diffyg cynllunio strategol ac ymgysylltu lleol gan y Swyddfa Gartref. Mae’n amlwg i mi nad oes unrhyw wersi wedi’u dysgu o brofiadau’r gorffennol, ac unwaith eto rydym wedi cael ein gadael i godi’r darnau ar lefel leol.

“Byddwn yn ailadrodd o’r llythyrau yr wyf wedi’u hysgrifennu at y Swyddfa Gartref, fy nghefnogaeth i strategaeth Llywodraeth Cymru, sef cartrefu pobl mewn model gwasgaredig. Mae hyn yn gynaliadwy wrth gynnig ateb tymor hwy i geiswyr lloches yn ardal Dyfed-Powys. Mae’n fodel y mae pobl Cymru yn ei gefnogi, wedi’i gofleidio ac wedi’i gyflwyno’n llwyddiannus i ailsefydlu ceiswyr lloches Syria, Afghanistan, Wcrain a chyffredinol yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

“Mae’r penderfyniadau a wneir gan y Swyddfa Gartref yn gwrthdaro’n uniongyrchol â hyn.”

 

DIWEDD

Rhagor o fanylion

Gruff Ifan

Pennaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu

Gruffudd.ifan@dyfed-powys.police.uk