07 Awst 2023

Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cadarnhau eu bod am werthu pedair Gorsaf Heddlu ar draws ardal yr Heddlu yn y misoedd nesaf.

Nid yw'r pedair gorsaf yn weithredol ar hyn o bryd, gan eu bod wedi'u nodi fel rhai nad ydynt yn bodloni gofynion plismona modern.

Yn Sir Benfro, bydd Gorsafoedd Aberdaugleddau a Saundersfoot yn cael eu gwerthu.

Mae Heddlu Aberdaugleddau yn symud i ganolfan newydd o fewn y Dref, yn nes at ble mae trigolion lleol yn teimlo y dylai’r Heddlu fod – yn seiliedig ar faint o ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Mae Gorsaf Heddlu bresennol Saundersfoot wedi’i lleoli o fewn adeilad bach nad yw ar agor i’r cyhoedd. Bydd swyddogion sy'n gwasanaethu'r gymuned yn Saundersfoot yn parhau i weithio allan o'u canolfan yng Ngorsaf Heddlu Dinbych-y-pysgod, sydd lai na 4 milltir i ffwrdd.

Yn Sir Gaerfyrddin, mae Gorsaf Heddlu Llanelli, a hen Orsaf Cydweli hefyd i’w gwerthu fel rhan o raglen newid ar draws Heddlu Dyfed-Powys, lle mae ystadau, technoleg, a’r cit sydd ar gael i swyddogion a staff yn dod at ei gilydd i wella plismona. a'r gwasanaeth i gymunedau.

Nid yw’r hen orsaf yng Nghydweli wedi cael ei defnyddio’n weithredol fel Gorsaf Heddlu ers sawl blwyddyn, yn dilyn penderfyniad gan Heddlu Dyfed-Powys i uno canolfan yr heddlu â Gorsaf Gwasanaeth Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru yn y dref. Mae'r eiddo ar hyn o bryd yn cael ei brydlesu a'i ddefnyddio fel canolfan adnoddau gwledig sy'n hwyluso cefnogaeth amrywiol i'r ardal ehangach.

Arweiniodd asesiadau amrywiol o Orsaf Heddlu Llanelli dros y blynyddoedd at y penderfyniad i fuddsoddi mewn prosiect adeiladu gwerth miliynau i adeiladu canolfan heddlu a Dalfa newydd a chynaliadwy a phwrpasol ar gyrion Llanelli yn Nafen, a agorodd ei ddrysau ym mis Mai eleni.

Nawr bod y ganolfan newydd yn Nafen wedi dod yn gwbl weithredol, mae penderfyniad wedi’i wneud i werthu adeilad yr Orsaf yng nghanol y dref, gan nad yw Heddlu Dyfed-Powys ei angen yn weithredol mwyach.

Bydd y Tîm Plismona Cymunedol yn Llanelli yn parhau i weithio o'u canolfan yng nghanol y dref, gan sicrhau presenoldeb gweladwy ac ymgysylltu effeithiol â thrigolion a busnesau lleol.

Dywedodd y Prif Gwnstabl Dr Richard Lewis: “Daeth y penderfyniad hwn ar ôl gwerthusiad gofalus i wneud y defnydd gorau o adnoddau a darparu gwasanaeth heddlu effeithiol sy’n bodloni anghenion a disgwyliadau ein cymunedau.

“Mae cau a gwerthu gorsaf heddlu Saundersfoot yn gam ymlaen o ran moderneiddio a gwella ein gwasanaethau, gan alluogi swyddogion i barhau â’u gwaith yn fwy effeithlon ac effeithiol.

“Mae’r penderfyniad wedi’i wneud gyda budd gorau’r trethdalwyr a’r gymuned mewn golwg, gan nad yw’r gorsafoedd presennol yn weithredol bellach gan nad ydynt yn bodloni gofynion plismona modern, ac yn ddrud i’w rhedeg.

“Rwyf am roi sicrwydd i’n cymunedau lleol bod Heddlu Dyfed-Powys wedi ymrwymo i gynnal yr un lefel o wasanaeth a chefnogaeth i’n cymunedau lleol, ac ni fydd trigolion a busnesau yn Aberdaugleddau, Saundersfoot, Llanelli a Chydweli yn gweld unrhyw wahaniaeth.

“Bydd eich timau plismona bro lleol yn parhau i ddarparu presenoldeb gweladwy ac ymgysylltu effeithiol â thrigolion a busnesau.”

Dywedodd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dafydd Llywelyn: “Yn hanesyddol, mae sôn am safleoedd heddlu’n symud neu orsafoedd yn cau ac yn cael eu gwerthu, wedi sbarduno naratif o heddlu’n tynnu’n ôl o gymunedau, ofnau am amseroedd ymateb, a phryderon am gynnydd mewn trosedd ac anhrefn.

“Fodd bynnag, rwyf wedi cael sicrwydd gan y Prif Gwnstabl Dr Richard Lewis, na fydd unrhyw wahaniaeth yn lefel y gwasanaeth i’r cyhoedd ym mhob un o’r pedwar maes o ganlyniad i’r penderfyniad ystadau hwn.

“Fel Comisiynydd Heddlu a Throseddu, rwyf am sicrhau’r cyhoedd, er gwaethaf y penderfyniad anodd i gau a gwerthu’r orsaf, mai ein hymrwymiad i sicrhau diogelwch a diogeledd ein cymunedau yw ein blaenoriaeth o hyd.

“Rwy’n cydnabod y gall newid fod yn heriol, ond gallwch fod yn sicr y bydd y symudiad strategol hwn yn caniatáu i Heddlu Dyfed-Powys ddyrannu adnoddau’n fwy effeithlon a gwella eu hymdrechion plismona.

“Yn yr oes ddigidol sydd ohoni, rydym yn ffodus i gael sianeli amrywiol y gall pobl gysylltu â Heddlu Dyfed-Powys drwyddynt. Yn ogystal â galwadau ffôn, rydym yn annog pobl i archwilio dulliau ar-lein a llwyfannau cyfryngau cymdeithasol a ddefnyddir gan yr Heddlu. Mae'r llwyfannau hyn yn aml yn darparu diweddariadau gwerthfawr, cyngor atal trosedd, a chyfleoedd ymgysylltu cymunedol, gan alluogi pobl i gysylltu ac ymgysylltu â'r heddlu a chael gwybod am faterion lleol.

“Trwy ddefnyddio’r sianeli amgen hyn, gallwn gyda’n gilydd gyfrannu at blismona mwy ymatebol ac effeithlon, gan alluogi Heddlu Dyfed-Powys i ganolbwyntio ar sefyllfaoedd argyfyngus tra’n dal i fynd i’r afael â phryderon ac anghenion ein cymuned.

“Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon, rwy’n eich annog i estyn allan i’m swyddfa. Rydym yn gwerthfawrogi eich mewnbwn ac yn gwerthfawrogi eich cefnogaeth barhaus i sicrhau diogelwch a lles ein cymunedau.”

Os oes angen yr heddlu arnoch pan nad yw’n argyfwng, gallwch gysylltu â nhw drwy neges uniongyrchol ar Facebook, Twitter neu Instagram, ar-lein, drwy e-bostio 101@dyfed-powys.police.uk , neu drwy ffonio 101.

Os ydych yn fyddar, yn drwm eich clyw, neu â nam ar eich lleferydd tecstiwch y rhif difrys ar 07811 311 908. Os oes trosedd yn digwydd, neu os oes perygl i fywyd, risg o anaf difrifol, neu ddifrod i eiddo, deialwch bob amser 999.

DIWEDD

Rhagor o fanylion:

Gruff Ifan

Pennaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu

Gruffudd.ifan@dyfed-powys.police.uk