19 Hyd 2023

Wythnos hon (14.10.24 – 21.10,.24) roedd hi'n Wythnos Ymwybyddiaeth Troseddau Casineb, sef wythnos genedlaethol o weithredu i annog cymunedau y mae troseddau casineb yn effeithio arnynt, awdurdodau lleol, heddluoedd a phartneriaid allweddol eraill i gydweithio i fynd i’r afael â materion yn ymwneud â throseddau casineb lleol.

Y thema genedlaethol eleni yw casineb ar sail ffydd gyda ffocws ar Antisemitiaeth.

Yn ogystal â hyn, roedd Canolfan Cymorth Casineb Cymru yn cadw at eu thema #CymruGyda’nGilydd wrth iddynt geisio creu deialog a thrafodaeth ynghylch mynd i’r afael â chasineb yng nghyd-destun Cymru.

I nodi Wythnos Ymwybyddiaeth Troseddau Casineb, roedd y Comisiynydd Dafydd Llywelyn yn rhan o sawl digwyddiad er mwyn cefnogi'r ymgyrch bwysig hon. 

Fe wnaeth y Comisiynydd gynnal weminar ar Droseddau Casineb Ar-lein ddydd Mercher 18 Hydref a oedd yn trin a thrafod yr heriau cymhleth y mae heddluoedd yng Nghymru a Lloegr yn dod ar eu traws wrth ymchwilio i adroddiadau troseddau casineb ar-lein.

Roedd y panel o siaradwyr arbenigol yn y weminar yn cynnwys cynrychiolwyr o Heddlu Dyfed-Powys, Canolfan Cymorth Casineb Cymru gyda Victim Support, sy’n darparu cymorth i ddioddefwyr Troseddau Casineb ledled Cymru, Swyddogion Cydlyniant Cymunedol lleol ymroddedig, ac Arweinydd y Prosiect Cyswllt Ysgolion Cenedlaethol, a ddarparodd oll fewnwelediadau ac atebion gwerthfawr i fynd i'r afael â'r pryderon cynyddol ynghylch Troseddau Casineb.

Bu'r Comisiynydd hefyd i Weithdy Ymwybyddiaeth Troseddau Casineb gyda phlant a phobl ifanc yn y Drenewydd fel rhan o’i Ddiwrnod Ymgysylltu â’r Gymuned ym Mhowys ar 19 Hydref.

Roedd y gweithdy'n cael ei gyflwyno gan Swyddogion Heddlu Dyfed-Powys a hyfforddwyr pel-droed o Sefydliad Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe. Cyflwynwyd y gweithdy i bobl ifanc o raglen Premier League Kicks y mae’r Comisiynydd wedi’i hariannu yn y Drenewydd.

Trwy'r rhaglen PL Kicks, mae plant a phobl ifanc yn cael cyfle i fynychu sesiynau pêl-droed wythnosol rhad ac am ddim sy'n cael eu rhedeg gan Sefydliad Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe, sy'n anelu at ddargyfeirio pobl ifanc oddi wrth droseddu trwy ddarparu gweithgaredd chwaraeon hwyliog iddynt mewn amgylchedd diogel.

Dywedodd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dafydd Llywelyn:

“Mae profi trosedd casineb yn gallu bod yn brofiad arbennig o frawychus gan eich bod wedi cael eich targedu oherwydd pwy ydych chi, neu pwy neu beth mae eich ymosodwr yn meddwl ydych chi.

“Yn wahanol i droseddau nad ydynt yn ymwneud â hunaniaeth, mae’r ymosodiad yn bersonol iawn ac wedi’i dargedu’n benodol, sy’n golygu ei fod yn llai tebygol o fod yn ymosodiad ar hap.

“Mae Wythnos Ymwybyddiaeth Troseddau Casineb yn gyfle i’r Heddlu a phartneriaid eraill ddod at ei gilydd i herio casineb o fewn ein cymunedau, i godi ymwybyddiaeth o droseddau casineb ac i sefyll mewn undod â’r rhai y mae troseddau casineb yn effeithio arnynt.

“Rwy’n ddiolchgar fy mod wedi cael y cyfle i fod yn rhan o’r ymgyrch eleni unwaith eto.

“Roedd y gweminar a gynhaliais ddydd Mercher yn gyfle i ni drafod yr heriau cymhleth y mae heddluoedd Cymru a Lloegr yn dod ar eu traws wrth ymchwilio i adroddiadau troseddau casineb ar-lein, a’r effaith ar ddioddefwyr.

“Mae hefyd yn bwysig i siarad â phobl ifanc am eu profiadau o droseddau casineb, ac roedd y cyfle a gawsom yn y Drenewydd nos Iau yn ystod ein gweithdy gyda phlant ifanc yr ardal a oedd yn mynychu sesiwn pêl-droed ciciau’r brif gynghrair, yn hynod o werthfawr.

“Hoffwn ddiolch i’r holl bartneriaid sydd wedi bod yn rhan o’r gweithgareddau amrywiol yr wythnos hon, ac i gydweithwyr yn Victim Support yn arbennig am eu cefnogaeth wrth gydlynu’r holl ddigwyddiadau sydd wedi bod yn cael eu cynnal ledled Cymru.

“Byddwn yn parhau i gydweithio i sicrhau bod ein dioddefwyr yn cael eu cefnogi a bod troseddwyr yn cael eu dwyn o flaen eu gwell”.

Rhoi gwybod am droseddau casineb

Os ydych chi'n profi neu'n dyst i drosedd casineb, rhowch wybod i Heddlu Dyfed-Powys drwy ffonio 101. Gallwch hefyd roi gwybod amdano drwy Facebook, Twitter a gwefan Heddlu Dyfed-Powys. Mewn argyfwng ffoniwch 999 bob amser.

Mae gwasanaethau cymorth, cyngor a chefnogaeth ar gael trwy Gymorth i Ddioddefwyr.

 

DIWEDD

Gwybodaeth bellach:

OPCC.Communication@dyfed-powys.police.uk