22 Medi 2017

Y Comisiynydd Dioddefwyr, y Farwnes Newlove, yn lansio Fforwm Ymgysylltu Dyfed-Powys ar gyfer Dioddefwyr

Mae Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys, wedi cael y fraint o groesawu’r Farwnes Newlove, y Comisiynydd Dioddefwyr, i Ddyfed-Powys, i glywed sut mae dioddefwyr trosedd yn cael eu cefnogi, gan gydweithio i sicrhau bod lleisiau dioddefwyr yn cael eu clywed a lansio’r Fforwm Ymgysylltu ar gyfer Dioddefwyr.

Mae sefydliadau Cyfiawnder Troseddol yn Nyfed-Powys wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n deg, yn gefnogol, yn dryloyw, ac wrth galon ein gwasanaethau y mae’r dioddefydd.

Deallwn fod y syniad o gychwyn camau amrywiol y broses cyfiawnder troseddol yn medru dychryn dioddefwyr. Mae ymgysylltu â dioddefwyr drwy amryw o sianeli yn allweddol, a bydd yn helpu i chwalu’r rhwystrau maen nhw’n wynebu. Byddwn ni’n dysgu o brofiad gwael ac yn dathlu meysydd o gryfder. Ein nod yw rhoi grym i ddioddefwyr deimlo eu bod nhw mewn rheolaeth, a cheisio eu help yn weithredol o ran ein cefnogi i wella’n barhaus.

Dywedodd y Farwnes Newlove: “Er fy mod i yma â theitl, Helen ydw i o hyd, yn fam i dair merch sy’n mynd trwy’r daith cyfiawnder. Fel Comisiynydd Dioddefwyr, rwy’ cwrdd â Chomisiynwyr Heddlu a Throseddu a dioddefwyr. Mae’n ymwneud â’ch grymuso chi fel dioddefwyr - mae emosiwn yn cael ei golli, mae’n seiliedig ar ffeithiau, ac mae angen gwell dealltwriaeth arnom. Mae angen gwell system arnom ar eich cyfer chi a chlywed eich llais mewn ffordd gref, a thaflu goleuni ar arfer da. Rwy’n dod â’ch llais chi i ddadleuon yn Nhŷ’r Arglwyddi.

“Roedd hi’n ddiddorol gweld â’m llygaid fy hun sut mae Goleudy’n helpu dioddefwyr a thystion â chymorth ymarferol ac emosiynol. Hefyd, roedd hi’n ddefnyddiol iawn cwrdd â dioddefwyr lleol ac arwain ar grwpiau ffocws gyda nhw â’r gwasanaethau amrywiol.”

Dywedodd Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys: “Rwy’n ddiolchgar iawn i’r Farwnes Newlove am ymweld â ni ac am lansio Fforwm Ymgysylltu Dyfed-Powys ar gyfer Dioddefwyr. Rwy’n edrych ymlaen at gydweithio’n agosach er mwyn sicrhau bod lleisiau dioddefwyr yn cael eu croesawu a’u clywed. Ymgorfforir anghenion a hawliau dioddefwyr yn rôl y Comisiynydd Dioddefwyr ac rwy’n awyddus iawn i weithio ochr yn ochr â hi er mwyn hyrwyddo achos dioddefwyr yn lleol ac yn genedlaethol.”

Mae Goleudy yn wasanaeth a gomisiynir gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu sy’n rhoi’r cymorth sydd angen arnynt i unrhyw un sydd wedi’i effeithio gan drosedd i ddod dros y profiad. Mae’n cynnig cymorth i ddioddefwyr a thystion yn Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Phowys. Nid oes rhaid bod yr heddlu wedi cael gwybod am y drosedd cyn cael mynediad i’r cymorth sydd ar gael. Yn wir, un o rolau Goleudy yw siarad â rhywun am eu dewisiadau os nad ydynt wedi adrodd am drosedd, siarad â nhw am yr hyn ddigwyddodd a’u teimladau amdano.

Mae Goleudy’n anelu i gynnig safon gofal uchel i ddioddefwyr a thystion yn y System Cyfiawnder Troseddol. Am ragor o wybodaeth am Goleudy, galwch heibio i www.goleudyvictimandwitnessservice.org.uk.

diwedd