Mae Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Dyfed Powys yn darparu’r fforwm i ddwyn partneriaid allweddol ac uwch gynrychiolwyr asiantaethau Cyfiawnder Troseddol sy’n gweithredu o fewn Dyfed-Powys ynghyd i alluogi cydweithredu a gweithio mewn partneriaeth. Mae'r Bwrdd yn gyfrifol ac yn atebol am y gwasanaeth a ddarperir i'r dioddefwyr a'r tystion, cyflawni’r targedau cyfiawnder troseddol yn y maes hwn, a gwelliannau o ran darparu cyfiawnder a sicrhau hyder y cyhoedd.

Gweledigaeth Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Dyfed Powys yw gwella effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd y system cyfiawnder troseddol yn Nyfed Powys, gan gynnwys gwella'r profiad ar gyfer dioddefwyr a thystion, a meithrin hyder yn y system yn ei chyfanrwydd.

Meysydd blaenoriaeth

Ar gyfer 2024/25, mae’r Bwrdd wedi mabwysiadu blaenoriaethau Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru, sef:

  1. Dioddefwyr a Thystion
  2. Pobl sy’n Troseddu

Mae mynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol' a phlant a phobl ifanc' yn ddau edefyn euraidd ar draws pob blaenoriaeth.

Bydd Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Dyfed-Powys yn bwydo i mewn i gynllun Cymru Gyfan tra hefyd yn canolbwyntio ar flaenoriaethau lleol yn yr ardaloedd hyn.

Aelodaeth

  • Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys
  • Heddlu Dyfed-Powys
  • Gwasanaeth Erlyn y Goron
  • Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Fawrhydi
  • Y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol
  • Y Tîm Troseddau Ieuenctid
  • Y Gwasanaeth Tystion Llys
  • Bwrdd Iechyd Hywel Dda
  • Llywodraethwr Carchar Abertawe
  • Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol