Mae Grŵp Plismona Cymru gyfan yn darparu fforwm i alluogi Comisiynwyr yr Heddlu a Throsedd a Phrif Gwnstabliaid Cymru i gydlynu a chraffu ar waith cydweithredol a phartneriaeth ledled Cymru. Bydd Cadeirydd y Grŵp yn Gomisiynydd Heddlu a Throsedd a fydd yn cyflawni'r rôl am gyfnod o 12 mis parhaus. Bydd y rôl yn cylchdroi rhwng pedwar Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd yng Nghymru fel eu bod i gyd yn cadeirio'r Grŵp yn ystod y cyfnod rhwng etholiadau a drefnwyd ar gyfer Comisiynwyr a gynhelir bob 4 blynedd.

 

 

Dafydd Llywelyn - Police and Crime Commissioner for Dyfed Powys

  • Lead of the APCC Portfolio Group on Police Leadership

Claire Parmenter - Temporary Chief Constable for Dyfed Powys

 

Jeff Cuthbert - Police and Crime Commissioner for Gwent

Pam Kelly - Chief Constable for Gwent

Andy Dunbobbin - Police and Crime Commissioner for North Wales

Carl Foulkes - Chief Constable for North Wales

Alun Michael - Police and Crime Commissioner for South Wales

Jeremy Vaughan - Chief Constable for South Wales Police

Grŵp Plismona Cymru - Cylch Gorchwyl

Pwrpas

Mae Grŵp Plismona Cymru yn darparu fforwm i alluogi Comisiynwyr yr Heddlu a Throsedd a Phrif Gwnstabliaid Cymru i gydlynu a chraffu ar waith cydweithredol a phartneriaeth ledled y rhanbarth.

Pwrpas y Grŵp yw: -

  1. Galluogi Comisiynwyr Heddlu a Throsedd a Phrif Gwnstabliaid i gyflawni eu dyletswyddau cydweithredu statudol.
  2. Darparu arweinyddiaeth strategol, cyfeiriad ac awdurdod priodol ar gyfer cydweithredu a phartneriaethau ar gyfer plismona yng Nghymru.
  3. Rhoi cyfeiriad i Ddirprwy Brif Gwnstabl Cymru a chraffu ar y modd y cyflwynir y rhaglen gydweithredu.
  4. Ystyried y cyfraniad at y Gofyniad Plismona Strategol a'r effaith y mae'n ei gael yng Nghymru.
  5. Ystyried materion i'w trafod ym Mwrdd Plismona Cymru a'r Grŵp Trawsbleidiol.
  6. Penderfynu sut y gall plismona fel gwasanaeth heb ei ddatganoli gyfrannu'n effeithiol at y sector cyhoeddus datganoledig yn bennaf yng Nghymru.
  7. Ystyrio effaith materion sy'n effeithio ar blismona yng Nghymru sy'n mynd y tu hwnt i lefel heddlu unigol ac i lunio strategaethau ymateb priodol.
  8. Ystyried ac ymateb yn briodol i faterion sy’n codi o Gymdeithas Cymdeithas y Comisiynwyr Heddlu a Throsedd a Chyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu.
  9. Ystyried a phenderfynu ar y ffordd orau i gynrychioli buddiannau Cymru ar lefel ranbarthol a chenedlaethol.
  10. Cyfnewid arfer gorau rhwng timau Comisiynwyr a Lluoedd.

 

Annibyniaeth Gweithredol

Mae'r Prif Gwnstabliaid, eu cwnstabliaid a'u staff yn parhau i fod yn annibynnol yn weithredol a bydd ganddynt y gallu i benderfynu ar faterion gweithredol o'r fath. Mae paragraff 103 o'r Canllawiau Statudol ar gydweithrediad yr heddlu yn ei gwneud yn glir na all Prif Swyddogion gael eu rhwymo'n weithredol gan benderfyniadau cyd-bwyllgor goruchwylio, yn yr achos hwn Grŵp Plismona Cymru gyfan, yn fwy na chan benderfyniadau corff plismona ei hun hy eu y Comisiynydd Heddlu a Throsedd priodol.

 

Aelodaeth

Bydd aelodaeth Grŵp Plismona Cymru gyfan yn cynnwys:

 

  • Prif Gwnstabl, Heddlu Dyfed Powys
  • Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd ar gyfer Dyfed Powys
  • Prif Gwnstabl, Heddlu Gwent
  • Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent
  • Prif Gwnstabl, Heddlu Gogledd Cymru
  • Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru
  • Prif Gwnstabl, Heddlu De Cymru
  • Comisiynydd Heddlu a Throsedd De Cymru
  • Dirprwy Brif Gwnstabl, Cymru Gyfan

 

Cadeirydd

Bydd Cadeirydd y Grŵp yn Gomisiynydd Heddlu a Throsedd a fydd yn cyflawni'r rôl am gyfnod o 12 mis parhaus. Bydd y rôl yn cylchdroi rhwng pedwar Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd yng Nghymru fel eu bod i gyd yn cadeirio'r Grŵp yn ystod y cyfnod rhwng etholiadau a drefnwyd ar gyfer Comisiynwyr a gynhelir bob 4 blynedd.

Bydd y Cadeirydd yn cynrychioli buddiannau'r Grŵp trwy weithio gyda Chadeirydd Grŵp Prif Swyddogion Cymru yn ôl yr angen y tu allan i'r strwythur cyfarfod ffurfiol. Wrth wneud hynny bydd Cadeiryddion y ddau Grŵp yn sicrhau bod eu priod gydweithwyr yn cael eu hysbysu am ddatblygiadau a chamau gweithredu a wneir ar eu rhan. Er mwyn osgoi amheuaeth, mae hyn er mwyn sicrhau gweithrediad llyfn busnes y Grŵp ac ni fwriedir rhoi awdurdod i'r naill Gadeirydd ymrwymo cydweithwyr i benderfyniadau gweithredol heb gydsyniad angenrheidiol y Comisiynwyr a'r Prif Gwnstabliaid eraill.

 

Mynychwyr

Yn ogystal ag Aelodau'r Grŵp, bydd cyfarfodydd yn cael eu mynychu gan: -

  • Dirprwy Gomisiynwyr yr Heddlu a Throsedd
  • Prif Weithredwyr o bedwar tîm Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd yng Nghymru
  • Cynghorydd Comisiynwyr yr Heddlu a Throsedd i Dîm Plismona Cymru i gyd
  • Prif Uwcharolygydd, Uned Cyswllt yr Heddlu
  • Cefnogaeth ysgrifenyddol
  • Siaradwyr gwadd a chyflwynwyr yn ôl disgresiwn y Cadeirydd
  • Gall Dirprwy neu Brif Gwnstabliaid Cynorthwyol ddirprwyo ar ran eu Prif Gwnstabliaid priodol os na allant fod yn bresennol.

 

Ysgrifenyddiaeth

Bydd y Prif Weithredwr yn darparu cefnogaeth ysgrifenyddiaeth i Gadeirydd Grŵp Plismona Cymru gyfan. Mae hyn yn cynnwys paratoi agendâu, cofnodion, tablau gweithredu, coladu adroddiadau, cysylltu â siaradwyr gwadd, gwesteion a phob mater sy'n ymwneud â lleoliad y cyfarfod.

 

Strwythur Cyfarfod

Rhennir y cyfarfodydd yn ddwy ran. Bydd holl aelodau'r Grŵp yn mynychu rhan un. Dim ond y Comisiynwyr, y Prif Weithredwyr, cefnogaeth ysgrifenyddol a gwesteion a siaradwyr gwahoddedig fydd yn bresennol yn ôl disgresiwn y Cadeirydd.

Bydd y Cadeirydd yn ymgynghori ar eitemau ar gyfer yr agenda, rhannau 1 a 2, cyn pob cyfarfod a bydd yn cadw'r disgresiwn i benderfynu a ddylid eu cynnwys. Mae hyn er mwyn sicrhau rheolaeth amser effeithiol ac ystyriaeth o eitemau â blaenoriaeth. Dylid cyflwyno pob cais am eitemau ar yr agenda i Brif Weithredwr y Cadeirydd heb fod yn hwyrach na phythefnos cyn dyddiad y cyfarfod.

 

Amledd Cyfarfodydd ac Amserlen

Cynhelir cyfarfodydd bob chwarter. Fe'u cynullir i ganiatáu i faterion gael eu codi'n amserol ym Mwrdd Plismona Cymru a'r Grŵp Trawsbleidiol ar Blismona. Bydd Prif Weithredwr y Cadeirydd yn ymgynghori â holl aelodau’r Grŵp ar ddyddiadau cyfarfodydd ymlaen llaw.