26 Gor 2018

Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Dafydd Llywelyn, yn croesawu panel o arbenigwyr i Fforwm Troseddau Gwledig 2018 yn y Sioe Frenhinol.

Ddydd Llun, 23 Gorffennaf, daeth torfeydd o ymwelwyr i Lanelwedd i fwynhau gweithgarwch bywiog y Sioe Frenhinol.

Ar ddechrau’r wythnos, croesawodd Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed Powys, Dafydd Llywelyn, banel o arbenigwyr i ymuno ag ef i drafod troseddau gwledig a bywyd gwyllt gyda’r cyhoedd. Roedd chwe aelod ar y panel, gan gynnwys partneriaid allweddol a sylwebyddion o’r byd amaeth; Cyfoeth Naturiol Cymru, Heddlu Gogledd Cymru, Undeb Amaethwyr Cymru, y Prif Gwnstabl Mark Collins o Heddlu Dyfed-Powys sy’n dal portffolio Troseddau Bywyd Gwyllt a Materion Gwledig, Heddlu Gwent, a’r newyddiadurwraig a’r darlledwraig profiadol, Anna Jones.

Roedd y Fforwm wedi’i gynnal ar ddiwrnod cyhoeddi canlyniadau Arolwg Rhwydwaith Cenedlaethol Troseddau Gwledig 2018, a oedd yn datgelu nad yw traean o’r troseddau gwledig yn cael eu hadrodd i’r heddlu. Mae’r diffyg adrodd hwn, ynghyd â disgwyliadau isel gan y cyhoedd a phryderon na fydd dim yn cael ei wneud ynglŷn â・r drosedd, yn arwain at y cyhoedd yn pryderu ac yn ofni am droseddu gwledig yn ein cymunedau. Roedd barn y panel yn unfrydol; mae’n rhaid i asiantaethau fod yn rhagweithiol, a rhaid i hyn gael ei adlewyrchu ar lefel polisi sefydliadol, ac wrth wneud penderfyniadau.

Dywedodd Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys, a Chadeirydd y Fforwm:

"Mae’r Fforwm Troseddau Gwledig heddiw’n gyfle arbennig i wrando ar bryderon y gymuned amaethyddol, ac i gael blas go iawn ar gymhlethdodau troseddau gwledig yma yn Nyfed-Powys a ledled Cymru."

Defnyddiodd y gynulleidfa’r cyfle i holi cwestiynau pwysig, ac roedd y prif themâu’n cynnwys tipio anghyfreithlon, caethwasiaeth fodern, a ‘Llinellau Sirol’ yn benodol, lle mae gangiau cyffuriau’n ecsbloetio pobl ifanc a phobl sy’n agored i niwed mewn ardaloedd gwledig.

Dywedodd Is-gadeirydd Undeb Amaethwyr Cymru, Ian Rickman:

"Roedd y Fforwm yn gyfle da i glywed am yr hyn sy’n cael ei wneud i daclo troseddu gwledig ledled Cymru. Mae’n fater sy’n effeithio ar ein haelodau yn gyson, ac fe fydd yr Undeb yn parhau i ymgysylltu’n gadarnhaol gyda’r holl Heddluoedd er mwyn hybu diogelwch ar y fferm, ac er mwyn delio â’r mater hollbwysig hwn".

Dywedodd Alun Davies AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus:

"Er nad yw Plismona wedi’i ddatganoli, gallwn gyflawni cymaint yn fwy trwy weithio gyda’n gilydd. Rwyf am i ni rannu ein harbenigedd a’n profiad. Mae angen i ni fod yn llygaid ac yn glustiau i’r gyfraith; mae gennym gyd-gyfrifoldeb i fynd i’r afael â throseddau gwledig".

Yn ymuno â’r panel oedd Anna Jones, sy’n newyddiadurwraig o Bowys, ac sydd â phrofiad helaeth o faterion gwledig yng Nghymru a Lloegr. Wrth gyfeirio at ganlyniadau’r arolwg a gyhoeddwyd heddiw, dywedodd Anna:

"Mae’n frawychus fod 69 y cant o ffermwyr a busnesau amaethyddol wedi nodi eu bod wedi profi trosedd dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae’n rhaid inni gwestiynu p’un ai y bydden ni’n caniatáu troseddu o’r fath lefel mewn unrhyw ddiwydiant arall."

Yn 2017, ar ôl ymgynghori â’r cyhoedd ac yn dilyn gwaith ymchwil a wnaed gan Brifysgol Aberystwyth, adnewyddodd ac ail-lansiodd Heddlu Dyfed-Powys ei Strategaeth Troseddau Gwledig. Mae’r dull strategol hwn o weithio’n adleisio datblygiadau mewn ardaloedd gwledig eraill yng Nghymru, yn benodol Heddlu Gogledd Cymru a Heddlu Gwent. Tynnodd y Prif Gwnstabl Mark Collins sylw at rai datblygiadau cyffrous ers lansio’r Strategaeth, gan gynnwys gweithio’n well mewn partneriaeth â rhanddeiliaid allweddol, megis Cyfoeth Naturiol Cymru.

Yn ogystal â hyn, mae’r bartneriaeth yn parhau rhwng heddluoedd eraill yng Nghymru, ac mae hyn yn cynnig cyfleoedd i rannu gwybodaeth, sy’n allweddol o ran mynd i’r afael â throseddu trawsffiniol. Bellach, mae gan Heddlu Dyfed-Powys dîm penodedig i ddelio â throseddau gwledig a rhai sy’n ymwneud â bywyd gwyllt. Mae’r tîm yn cael ei hyfforddi gan Rob Taylor, Rheolwr Tîm Troseddau Gwledig Heddlu Gogledd Cymru.

Wrth gloi’r Fforwm, dywedodd Dafydd Llywelyn:

"Mae yma awydd clir i newid y ffordd yr ydym yn mynd i’r afael â throseddau gwledig, a hynny mewn modd strategol ar lefel Cymru-gyfan. Rwyf nawr yn gwahodd mudiadau a phartneriaid y diwydiant i’n dal ni i gyfrif dros y flwyddyn nesaf. Rwy’n edrych ymlaen at gynnal sgwrs adeiladol â chi, ac inni weld ffrwyth y trafodaethau hyn yn y Fforwm Troseddau Gwledig nesaf ymhen 12 mis".

Er mwyn darllen rhagor am y panel a’r siaradwyr, ewch i wefan Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys.

Diwedd