22 Gor 2020

Mae gwaith cydweithredu rhwng Heddluoedd Cymru wedi’i ganmol mewn adroddiad cenedlaethol a gyhoeddwyd yr wythnos hon gan HMICFRS - Adroddiad PEEL, ‘The Hard Yards’.

Yr wythnos hon, cyhoeddodd Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Mawrhydi (HMIRCFRS), adroddiad sy'n darparu persbectif cenedlaethol ar gydweithio rhwng heddluoedd.

Mae’r adroddiad yn adolygu nifer o enghreifftiau o gydweithio uchel eu proffil a chynghreiriau strategol ledled Cymru a Lloegr, gyda chydnabyddiaeth o fewn yr adroddiad i’r ymdeimlad cryf o 'bwrpas' ac 'awydd' i wella plismona yng Nghymru trwy'r gwaith cydweithio sy’n bodoli rhwng y pedwar ardal Heddlu a’r pedwar Comisiynydd Heddlu a Throsedd yng Nghymru.

Mae rhaglenni cydweithredu Cymru Gyfan wedi cytuno ar dri nod ar gyfer cydweithredu sy'n cynnwys yr angen i symleiddio systemau TG; prosesau a hyfforddiant recriwtio ac adnoddau dynol; ac alinio polisi ac arferion gwaith yn well. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae'r cytundeb hwn wedi gosod y cyfeiriad ar gyfer cydweithredu Cymru Gyfan, ac mae arweinwyr y rhaglen wedi nodi newid o ran pa mor effeithlon y maent yn gweithredu'r cydweithredu.

Dywedodd Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys, sydd wedi bod yn Gadeirydd ar Grwp Plismona yng Nghymru yn ystod y flwyddyn ddiwethaf; “Rwy’n croesawu’r adroddiad gan HMCIFRS, ac yn benodol y ganmoliaeth ar gydnabyddiaeth i’r gwaith cydweithio rhyngom ni yma yng Nghymru.

“Mae Dyfed-Powys wedi bod wrth galon y cydweithio, dros y flwyddyn ddiwethaf yn benodol yn ystod fy nghyfnod fel Cadeirydd y Grwp Plismona yng Nghymru. 

“Ers mynd i mewn i’r Gadair, rwyf i wedi goruchwylio trafodaethau ar ystod o faterion cenedlaethol sy’n cael effaith ar blismona lleol.

“Yn y flwddyn ddiwethaf, rydym wedi llwyddo i wella perthnasoedd nid yn unig rhwng y pedwar Llu yng Nghymru ond gyda rhanddeiliaid a phartneriaid allweddol hefyd.

“Rwyf wedi bod yn rhagweithiol yn fy ymateb ar ran y grŵp i Covid-19, gan fynychu cyfarfodydd gyda Llywodraeth Cymru ar ran y Comisiynwyr eraill i drafod gyda’r Dirprwy Brif Weinidog a'r Brif Chwip er mwyn sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn ymwybodol o’r heriau a oedd yn wynebu swyddogion wrth iddynt weithio i sicrhau diogelwch y cyhoedd yn ystod y cyfnod clo.

“Mae'n bwysig deall deinameg unigryw cael sefydliadau datganoledig a heb eu datganoli yng Nghymru, ac mae'r fforwm arweinyddiaeth allweddol hwn ar gyfer Plismona yng Nghymru yn darparu sylfaen gadarn ar gyfer cydweithrediadau gwell ac yn datblygu hunaniaeth Plismona Cymru benodol, ac mae’n galonogol i weld hyn yn cael cydnabyddiaeth yn yr adroddiad.”

 

Dywedodd Mark Collins, Prif Gwnstabl Heddlu Dyfed-Powys: “Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi bod wrth wraidd llwyddiannau y gwaith cydweithredol, ac mae’r awydd i wella plismona i’n cymunedau trwy gydweithredu mor gryf ag erioed. Roedd yn braf gweld bod gan ein gwaith a'n cyfeiriad gydnabyddiaeth gref o bwrpas i wella plismona Cymru gyfan trwy'r Rhaglen Cymru Gyfan. Ymhlith yr enghreifftiau nodedig mae'r Uned Drylliau Tanio Cydweithredol, a'r Rhaglen Recriwtio Cymru Gyfan a enwebwyd ar gyfer gwobr.

“Sefydlwyd yr Uned Drylliau Tanio Cydweithredol (JFU) yn 2012 fel cydweithrediad rhwng tri gwasanaeth heddlu De Cymru - Heddlu Dyfed-Powys, Heddlu Gwent, a Heddlu De Cymru. Mae'r strwythur newydd wedi gweld swyddogion arfau tanio wedi'u lleoli mewn nifer o leoliadau ledled y Rhanbarth, yn barod i'w defnyddio mewn digwyddiadau ar draws y tair ardal heddlu dan sylw. Y grym y tu ôl i'r rhaglen hon o gydweithredu arfau tanio (sy'n cynnwys darparu hyfforddiant ar y cyd) oedd awydd i wella'r modd y darperir gwasanaethau trwy rannu adnoddau er mwyn gwella gallu. Mae gweithio fel hyn wedi golygu bod swyddogion arfau tanio yn llawer mwy rhyngweithredol, yn yr ystyr eu bod yn gwneud pethau yn yr un ffordd yn gyffredinol, gan gynnwys sut y cânt eu defnyddio mewn digwyddiadau. Cyflwynir rhaglen hyfforddi gyson ac helaeth i swyddogion arfau tân a Chomandwyr ledled Dyfed-Powys, Gwent a De Cymru. Mae'r JFU yn darparu mwy o fynediad at adnoddau wrth greu arbedion trwy ddarparu hyfforddiant ar y cyd, a rhannu chostau offer.

“Wedi’i enwebu am wobr gyda’r World Class Policing Awards, cyflwynodd Proses Recriwtio Cymru gyfan un platfform e-recriwtio arloesol, dwyieithog ar gyfer holl heddluoedd Cymru, sydd wedi gwella profiad darpar ymgeiswyr yn aruthrol. Mae'r dyluniad yn rhoi dull cyson, symlach a chydweithredol sy'n galluogi pob un o'r heddluoedd yng Nghymru i weithio gyda'i gilydd er budd unrhyw un sy'n gwneud cais i unrhyw wasanaeth heddlu yng Nghymru. Mae wedi lleihau'r amser ymgeisio, wedi symleiddio'r broses, ac wedi lleihau biwrocratiaeth - ac mae'n hawdd ei ddefnyddio i'r ymgeiswyr a'r recriwtwyr fel ei gilydd. Mae'n gydweithrediad gwirioneddol rhwng heddluoedd Cymru.

“Mae'r cyflawniadau hyn wedi dod o ganlyniad i berthynas waith gref a ffurfiwyd rhwng pob un o'r pedwar Prif Gwnstabl a Chomisiynydd Heddlu a Throsedd trwy'r grŵp Plismona yng Nghymru - a bydd y fforwm hwn yn sicrhau bod cydweithredu yn parhau ar ei orau.

“Rydym wedi ymrwymo i barhau i weithio tuag at leihau biwrocratiaeth a gwella effeithlonrwydd trwy gydweithredu â heddluoedd eraill a Chomisiynwyr yr Heddlu a Throsedd, ac rydym yn cydnabod y meysydd a nodwyd yn yr adroddiad lle gallwn wella ymhellach.”

 

DIWEDD

Adroddiad HMICFRS PEEL Spotlight Report – Hard Yards

Mwy o wybodaeth:

  • Gruff Ifan, Ymgynghorydd Polisi ac YmgysylltuGruffudd.ifan.OPCC@dyfed-powys.pnn.police.uk
  • Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys

 

  • Sian George, Swyddfa'r Wasg, Heddlu Dyfed-Powys: pressoffice@dyfed-powys.pnn.police.uk