04 Awst 2020

Yr wythnos hon mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys, Dafydd Llywelyn, wedi canmol y cynnydd a wnaed mewn llysoedd ynadon lleol wrth iddynt agosau at lefelau arferol o wasanaeth yn dilyn effaith pandemig Covid-19.

Nid yn unig y gwnaeth cyfyngiadau cloi a phellter cymdeithasol newid y darlun o droseddu ac anhrefn yn ystod y misoedd diwethaf, ond fe newidiodd hefyd y ffordd yr oedd dioddefwyr yn cael eu cefnogi. Mae sicrhau bod lefelau arferol o wasanaeth yn dychwelyd mewn Llysoedd yn cael ei ystyried yn hanfodol i ddioddefwyr, sef defnyddwyr terfynol ein System Cyfiawnder Troseddol.

Mae'r Comisiynydd Dafydd Llywelyn wedi bod yn allweddol wrth gydlynu ymateb y System Cyfiawnder Troseddol i'r pandemig, gan weithio gyda phartneriaid ar lefel genedlaethol yng Nghymru gyfan i ddatblygu trefniadau cyd-weithio brys, yn ogystal ag arwain yr ymateb lleol trwy Fwrdd Cyfiawnder Troseddol Dyfed-Powys, y mae'n Gadeirydd arno. Mae'r gwaith adfer mewn partneriaeth hwn wedi cymryd camau hynod gadarnhaol ymlaen, gyda llysoedd Ynadon lleol ymhlith y cyntaf yng Nghymru i ailddechrau lefelau arferol o wasanaeth ar ôl rhoi cynlluniau wrth gefn fel llysoedd ychwanegol ar waith i sicrhau bod y rhestr gyfan o achosion wedi'u clywed.

Dywedodd Dafydd Llywelyn, Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, “Mae'n braf iawn clywed bod y Llysoedd Ynadon lleol yn Dyfed-Powys bellach yn agosáu at lefelau arferol o wasanaeth yn dilyn oedi mawr mewn achosion o ganlyniad i’r clo mawr a mesurau pellter cymdeithasol.

“Mae sicrhau cefnogaeth effeithiol i ddioddefwyr wedi bod yn flaenoriaeth i mi fel Comisiynydd, er mwyn sicrhau eu bod yn gallu gwella o ddylanwad troseddau ar eu bywydau, ac yn ystod fy nghyfnod yn y Swyddfa rwyf wedi ymrwymo i ddatblygu System Cyfiawnder Troseddol mwy effeithiol ac ymatebol.

“Mae effaith cau llysoedd yn ystod y broses gloi wedi bod yn arbennig o arwyddocaol ac ar y cyd â staff fy swyddfa, rwyf wedi bod yn gweithio’n agos gydag asiantaethau Cyfiawnder Troseddol lleol i sicrhau y gellir ailddechrau busnes arferol mor gyflym a diogel â phosibl i sicrhau’r gwasanaeth a’r canlyniadau gorau posibl i ddioddefwyr.

“Mae'n ddealladwy bod datblygiadau yn Llys y Goron yn fwy cymhleth ond mae'r achosion wedi symud yn gyflym, gyda Chymru unwaith eto ar y blaen wrth ddatblygu darpariaeth llys ‘Nightingale’ mewn argyfwng.

“Rwy’n ddiolchgar i bawb sydd wedi gweithio i sicrhau ein bod wedi cyrraedd y pwynt hwn o fewn amserlen mor gyflym. Mae'r newyddion yn dyst i lwyddiant cydweithio a phartneriaeth gref rhwng asiantaethau Cyfiawnder Troseddol lleol.”

 

DIWEDD

Rhagor o fanylion:

Gruff Ifan

Ymgynghorydd Polisi ac Ymgysylltu

Gruffudd.Ifan.OPCC@dyfed-powys.pnn.police.uk