27 Tach 2020

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Dafydd Llywelyn wedi ymrwymo i sicrhau bod Heddlu Dyfed-Powys a Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd (SCHTh) yn gweithredu mewn ffordd gwyrddach, mwy cynaliadwy ac ecogyfeillgar yn y dyfodol ar ôl gweld sefydliadau a busnesau yn cael eu gorfodi i ddod o hyd i ffyrdd amgenach o weithio o ganlyniad i bandemig Covid-19.

Gyda nifer helaeth o staff SCHTh yn llwyddo i weithio'n effeithiol o bell ers canol mis Mawrth 2020, cymerodd y CHTh benderfyniad dros fisoedd yr haf i ildio 30% o ofod swyddfa'r SCHTh ym Mhencadlys yr Heddlu yn Llangunnor, Caerfyrddin, sydd bellach wedi'i ailddyrannu i Gwasanaeth Ambiwlans Cymru.

Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Dafydd Llywelyn; “Yr hyn a welsom ni pan orfodwyd pob un ohonom i aros gartref o ganlyniad i’r pandemig yn gynharach eleni, oedd ein bod yn dal i allu darparu a chynnal lefel uchel o wasanaeth i’r cyhoedd a phartneriaid, ac mewn gwirionedd, roeddem ni yn fwy effeithlon.

“O ganlyniad, wrth edrych i’r dyfodol, rydym yn edrych i sicrhau dull doethach ac annog gweithio’n hyblyg lle gall staff weithio o bell wrth i ni weithredu system ‘hot-desking’ yn ein Swyddfa.

“Mae llai o staff yn gweithio ym Mhencadlys yr Heddlu, yn golygu ein bod yn gwario llai ar drydan, mae llai o bapur yn cael ei argraffu, rydym yn teithio llai i’r gwaith ac yn ôl, cynhelir cyfarfodydd yn rhithiol yn hytrach nag wyneb yn wyneb, felly rydym wedi lleihau ein hôl troed carbon yn sylweddol, fel sefydliad, a hefyd fel unigolion.

Yn ogystal, yn gynharach eleni fe wnaeth CHTh Dafydd Llywelyn ymrwymo i fuddsoddi mewn 11 o geir trydan i'r Heddlu, gyda'r nod o dorri allbyniadau carbon a gweithio tuag at ddyfodol mwy cynaliadwy. Cyn bo hir, bydd Timau Plismona Bro ar draws ardal y Llu yn croesawu'r cerbydau newydd, a fydd yn cael eu defnyddio ar gyfer ymgysylltu â'r gymuned a gwaith datrys problemau wedi'i dargedu.

Mae gorsaf wefru e-Feic hefyd yn y broses o gael ei gosod yng Ngorsaf Heddlu Aberystwyth yn dilyn cyllid gan Gyngor Sir Ceredigion, a derbyniodd SCHTh dystysgrif yn ddiweddar i gydnabod bod trydan a brynir gan yr Heddlu yn cael ei gyflenwi'n gyfan gwbl trwy ffynonellau adnewyddadwy.

Dywedodd CHTh Dafydd Llywelyn; “Rydyn ni wedi dysgu llawer o'n profiadau o'r pandemig hwn. Mae un peth yn sicr, pan fydd yr amser cyfredol, digynsail hwn ar ben, nid yn unig y bydd y ffordd newydd, ddoethach ac effeithlon hon o weithio yn parhau, ond byddwn hefyd yn ceisio canfod ffyrdd o gymryd camau pellach tuag at fod yn fwy cyfeillgar i'r amgylchedd, ac i leihau ein hôl troed carbon, lleihau defnydd o danwydd, a hefyd profi buddion ynni adnewyddadwy.

“Rwyf wedi ymrwymo i sicrhau bod gennym sefydliad mwy gwyrdd a chynaliadwy a'n bod yn cymryd agwedd ecogyfeillgar tuag at blismona ar gyfer y dyfodol”.

 

DIWEDD

Rhagor o fanylion:

Gruffudd Ifan

Ymgynghorydd Polisi ac Ymgysylltu

Gruffudd.Ifan.OPCC@dyfed-powys.pnn.police.uk